Mae’n bosib fod mwy nag un ym mhob tri landlord preifat yng Nghymru’n torri’r gyfraith drwy wahaniaethu yn erbyn tenantiaid sydd ar fudd-daliadau.

Yn ôl ymchwil newydd, mae dros 75,000 o denantiaid ar draws Cymru’n dweud eu bod nhw wedi profi gwahaniaethu wrth geisio dod o hyd i’w cartref presennol.

Roedd pob un ohonyn nhw wedi cael gwrthod cartref diogel oherwydd nodweddau gwarchodedig fel hil, rhywedd neu abledd, neu o bosib oherwydd eu bod nhw’n gymwys am ryw fath o fudd-dal.

Dangosodd yr arolwg gan elusen dai Shelter Cymru fod 37% o landlordiaid yn dweud nad ydyn nhw, neu fod yn well ganddyn nhw beidio â gosod i denantiaid sydd ar fudd-daliadau.

Heddiw (dydd Mercher, Mawrth 9), mae Shelter Cymru yn lansio ymgyrch i hysbysu landlordiaid a thenantiaid fod gwahaniaethu yn erbyn unrhyw denant oherwydd eu hoed, rhywedd, anabledd, statws budd-daliadau, neu unrhyw nodwedd arall, yn anghyfreithlon.

‘Testun poen’

Mae’r elusen yn tynnu sylw at y ffaith fod gan Gymru amddiffyniadau arbennig yn eu lle i warchod tenantiaid rhag gwahaniaethu.

Ond er gwaetha’r amddiffyniadau hyn, mae diffyg ymwybyddiaeth yn golygu bod tenantiaid yn gweld rhai ymdrechion amlwg i wahaniaethu yn erbyn pobol, yn arbennig yn erbyn pobol sy’n gymwys ar gyfer rhyw fath o fudd-dal.

Dywed Ruth Power, Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru, fod ymchwil diweddar yr elusen yn dangos bod dod o hyd i gartref da yn anoddach fyth i rai pobol oherwydd gwahaniaethu.

“Yng nghanol argyfwng tai, mae’n ddigon anodd i bobol ar draws Cymru ddod o hyd i le i’w alw’n gartref,” meddai.

“Ond mae’r sefyllfa’n waeth i rai pobol gan fod eiddo yn dal i gael eu hysbysebu fel ‘dim DSS’ neu ‘dim budd-daliadau’.

“Mae ein hymchwil hefyd yn tanlinellu’r profiad dinistriol o bobol yn cael eu gwrthod rhag gweld eiddo neu rentu cartref oherwydd eu hunaniaeth ryweddol, rhywioldeb, ethnigrwydd neu anabledd.

“Yn ogystal â bod yn destun poen ac yn sarhaus, rydym am godi ymwybyddiaeth bod gwahaniaethu yn erbyn y gyfraith.”

Gall unrhyw un sy’n profi gwahaniaethu wrth chwilio am gartref, neu weld arfer o wahaniaethu, adrodd am hyn ar wefan Shelter Cymru.

“Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i roi terfyn ar wahaniaethu ym maes tai,” meddai wedyn.

“Cartref yw popeth – a heb gartref da, mae’n amhosibl i ni fyw bywydau iach, hapus a chynhyrchiol.”

‘Stad ofnadwy’

Mae Claire a’i phartner Lloyd wedi’u cofrestru’n ddall, ac mae gan Lloyd gi tywys.

Mae’r teulu’n ceisio dod o hyd i eiddo arall yn y sector rhent preifat ar y funud, gan fod eu cartref rhent yn cael ei roi ar y farchnad.

Dydyn nhw ddim mewn angen blaenoriaethol yn ôl y cyngor lleol, ond maen nhw wedi’i chael hi’n gynyddol anodd dod o hyd i gartref oherwydd gwahaniaethu amlwg, gyda sawl un yn eu gwrthod gan nad ydyn nhw’n croesawu anifeiliaid anwes.

Ci tywys yw ci Lloyd, sy’n ei gynorthwyo gyda thasgau bob dydd.

O dan Ddeddf Cyfartaledd 2010, mae’n anghyfreithlon i landlordiaid wrthod cŵn cymorth mewn eiddo wedi’i rentu, hyd yn oed os yw’r landlord yn gweithredu rheol ‘dim anifeiliaid anwes’.

Mae’r teulu hefyd yn poeni pe baen nhw’n gorfod symud i lety dros dro na fyddan nhw’n gallu mynd â’r ci tywys gyda nhw.

“Dw i mewn stad ofnadwy wrth feddwl am fod yn ddigartref ym mis Awst ar yr union adeg dw i’n disgwyl ein trydydd plentyn,” meddai Claire.

“Rydym wedi cael ein gwrthod a’n gwahaniaethu yn ein herbyn gymaint o weithiau wrth geisio cael cartref rhent preifat. Mae hyn wedi bod yn dreth ar fy iechyd meddwl a dwi’n becso am fy mhlant a’r babi sydd heb ei eni.

“Gall Lloyd ddim byw bywyd yn agos at normal heb ei gi tywys, a dwi wirioneddol yn teimlo bod pobol wedi ein gadael ni lawr a does neb yn poeni amdanom ni.

“Mae hyn hefyd yn gwneud i ni deimlo’n israddol fel rhentwyr preifat, ac mae pobol mor barod i’n barnu a’n stereoteipio. Galla’i ddim ond meddwl hefyd bod hyn yn gwahaniaethu yn erbyn ein hanableddau, a bod y brobem ci tywys yn esgus i bob landlord ein gwrthod.

“Mae’r holl sefyllfa wedi creu cwmwl mawr uwch ein bywydau ar adeg pan ddylen ni fod yn edrych ymlaen i’r babi newydd, ond rydym wedi cael cynnig gobaith gan ein gweithiwr achos o Shelter Cymru sy’n gweithio ar ein rhan i geisio rhoi pwysau ar y cyngor lleol i ffeindio cartref i ni cyn mis Awst.”