Mae FIFA wedi cadarnhau y bydd gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Awstria yng Nghaerdydd yn mynd yn ei blaen ar nos Iau, Mawrth 24 yn ôl y disgwyl.

Daw hyn ar ôl i’r corff gymeradwyo cais Wcráin i ohirio’u gêm nhw yn erbyn yr Alban y noson honno o ganlyniad i’r ymosodiadau gan Rwsia.

Mae FIFA yn dweud eu bod nhw’n condemnio gweithredoedd Rwsia.

Pe bai Cymru’n curo Awstria, byddan nhw’n herio’r Alban neu Wcráin yn rownd derfynol y gemau ail gyfle am le yng Nghwpan y Byd yn Qatar ar ddiwedd y flwyddyn.

Bydd y gêm ail gyfle derfynol yn cael ei chynnal ym mis Mehefin.

Mewn datganiad, dywed FIFA eu bod nhw’n ceisio trefnu gemau amgen ym mis Mawrth i’r timau sydd wedi cael eu heffeithio gan y sefyllfa, ac y bydd cyhoeddiad pellach ynghylch hynny maes o law.

Tocynnau

Pe bai Cymru’n curo Awstria, byddai tocynnau oedd wedi’u prynu ar gyfer y gêm derfynol ar Fawrth 29 yn dal yn ddilys ar gyfer y gêm a fydd yn cael ei chynnal ym mis Mehefin.

Mae modd i unrhyw un sy’n methu mynd i’r gêm ar y dyddiad newydd wneud cais am ad-daliad drwy e-bostio Cymdeithas Bêl-droed Cymru o fewn 28 diwrnod wedi’r cyhoeddiad gan FIFA ynghylch y dyddiad newydd.

Pe na bai Cymru’n cyrraedd y rownd derfynol, bydd ad-daliad awtomatig i bawb o fewn 60 diwrnod.