Pan nad yn perfformio, mae’r actores 27 oed o Henfeddau yn Sir Benfro yn cynnal gweithdai i actorion ifanc.

Mae hi wedi portreadu Betty Campbell, y brifathrawes groenddu gyntaf yng Nghymru, ar lwyfan.

Ac ar gyfer Mis Hanes Pobol Ddu mae ganddi raglen ar S4C – Yr Actor a’r Eicon – sy’n edrych ar hanes Betty.

A’r mis nesaf fe fydd yn actio mewn sioe y mae hi ei hun wedi ei sgrifennu, am ei phrofiad yn berson Nigerian a Chymreig yn tyfu fyny yng nghefn gwlad Cymru…