Stwff diflas yw’r bara sydd ar gael yn ein harchfarchnadoedd.

Mae’r broses Chorleywood, sy’n defnyddio braster, a chemegau (megis Diacetyl Tartaric Acid Esters, Diglycerides a Calcium Propionate) yn galluogi’r ffatrïoedd i wneud bara gan ddefnyddio gwenith sy’n cynnwys llai o brotin. Mae’r broses hefyd yn defnyddio siambrau gwactod (vacuum) er mwyn llenwi’r bara â swigod awyr. Penllanw hyn yw bod y bara fel sbwng annaturiol a digymeriad.