Y Tŷ Gwyrdd yw un o gyfresi diweddaraf S4C. Ynddi, caiff wyth o “eco droseddwyr mwyaf Cymru” eu gyrru i aros mewn iwrts heb wres canolog, heb eu ffonau symudol nac unrhyw beth moethus, a hynny i ehangu eu gorwelion a dysgu sut i fyw yn fwy gwyrdd a chynaliadwy. A’r cwbl o dan oruchwyliaeth y cyflwynydd, Sian Eleri.