Yn 1954 datganodd yr Aelod Seneddol Henry Hopkinson y canlynol yn Nhŷ’r Cyffredin am hawliau deiliaid Prydeinig i symud yn rhydd o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig: ‘Rydym yn dal i ymfalchïo yn y ffaith y gall dyn ddweud Civis Britannicus sum [rydw i’n ddinesydd Prydeinig] beth bynnag fo lliw ei groen, ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod, os yn dymuno, yn gallu dod i’r Famwlad.’