Yr wythnos ddiwethaf, pan ysgrifennais am fy atgofion o wylio Caerdydd yn Ewrop, doedd gen i ddim syniad am y cynllun i agor y drws i’r Adar Gleision gynrychioli Cymru yng Nghyngres UEFA.

Fel mae’n sefyll, mae’r pedwar tîm Cymreig sydd yn chwarae yn Lloegr, hefyd yn gymwys i gynrychioli Lloegr yn Ewrop, fel gwnaeth Abertawe yn 2013.