Chwilio am gysur oeddwn i; dwi wastad yn gwario gormod ar yr adeg yma o’r flwyddyn. Yn trio gwneud iawn am yr ias sy’n mentro’n ddi-wahoddiad dan fy nillad. Yn trio dod o hyd i oleuni yn y dyddiau tywyll, ac mae’r siopau mawr prysur yn olau o hyd. Ro’n i angen gwario ‘mhres a theimlo pwysau braf fy mhethau newydd mewn bagiau yn fy llaw- dillad, colur, technoleg.