Mae’r digrifwr a’r cyflwynydd sy’n sgrifennu sioe i Netflix wedi bod yn trafod y sylwadau hiliol mae hi wedi eu clywed wrth weithio yn y diwydiant teledu Cymraeg…

Peth prin yw cofiant gan rywun 29 oed. Ond mae Melanie Owen, digrifwr, sgriptiwr, podlediwr a chyflwynydd o Geredigion, wedi penderfynu rhannu’r gwersi mae hi wedi eu dysgu yn ei hugeiniau. A does ryfedd, gan ei bod hi eisoes wedi byw bywyd llawn cyffro.

Fel ei setiau stand-yp, sydd wedi mynd â hi o neuaddau gwledig i’r Comedy Store yn Los Angeles, straeon ysgafn am ei bywyd personol sydd yn OEDOLYN (ISH!). Mae’r cwbl yma – carwriaethau aeth yn ffliwt, sefyllfaoedd lletchwith gyda ffrindiau a chariadon, ei rheini a phobol y diwydiant teledu a chomedi.

Fe gawn sôn am ei magwraeth yng nghefn gwlad Ceredigion, gan dynnu sylw’n gynnil at yr hiliaeth feunyddiol mae hi’n ei brofi fel merch aml-hil, ac yn rhoi swadan haeddiannol i’r rheiny sy’n dal i wneud y fath beth.

Mae hi’n barod iawn i chwerthin ar ei phen ei hun, wrth adrodd straeon gonest am benderfyniadau annoeth o ran cyfeillgarwch a gwaith, rhyw a chariadon. Mae sawl tro trwstan doniol iawn – fel yr adeg pan gymerodd hi frathiad o croissant y seren ffilm Hugh Jackman ar y trên mewn camgymeriad. Fel set stand-yp dda, mae’r llyfr yn eich cadw yn eich sedd, heb i chi fod eisiau gadael y theatr nes iddi ddod at derfyn ei stori.

Dyna’r ffarmwr fu’n caru gyda hi yn ei bic-yp wrth wal ‘Cofiwch Dryweryn’ yn y dyddiau llwyd ar ôl Covid, a dafad wedi trigo yn y cefn. Neu ‘Zac’, bachgen tal, gwallt gwinau roedd hi a’i ffrindiau ysgol yn meddwl oedd yn debyg i’r actor Zac Efron, ond a oedd mewn gwirionedd yn hen gi ac y cafodd hi ddihangfa ffodus oddi wrtho.

“Ro’n i yn eitha’ hoffi edrych nôl ar fy magwraeth ifanc,” meddai Melanie Owen wrth Golwg. “Adeg hynna mae yn cael effaith ar eich meddylfryd chi am weddill eich bywyd. Er bod y stori yna yn un hollol ridiculous a ffyni – ar y pryd, roedd yn teimlo fel y peth mwya’ pwysig erioed.

“Ro’n i’n hoffi edrych nôl a gweld os dw i wedi newid o gwbl. Mae llawer o esiamplau lle dw i’n meddwl dw i heb newid, a’r gwersi dw i wedi mynd drwyddyn nhw wedyn yn y cwpwl o flynyddoedd nesa’.”

Cyn-olygydd y Lolfa, Marged Tudur, oedd wedi gofyn iddi ar faes Eisteddfod a fyddai diddordeb ganddi sgrifennu llyfr. “Y stori mwya’ Cymraeg erioed,” meddai.

“Ar y pryd ro’n i ond yn 27 oed. Ro’n i’n meddwl: ‘Alla i ddim sgrifennu hunangofiant, bydde fe tua 20 tudalen o hyd’. Ro’n i’n meddwl hefyd bod cymaint gyda fi feddwl amdano cyn troi’n 30… Wnaethon ni gytuno ar y syniad yma o’r gwersi dw i wedi’u dysgu cyn troi’n 30.”

Wrth reswm mae hi’n betrus am ddatgelu’r cyfan. Ar ei Instagram mae hi’n dweud: ‘Dwi braidd yn nerfys fy mod i wedi bod bach *rhy* onest ar adegau wrth sgwennu ond, mae’n llythrennol rhy hwyr nawr eniwe, felly o leua mae gen i gwpwl o fisoedd i fi fwynhau fy mywyd cyn cael fy nghanselo.’

“Mae’n rhaid i fi barchu preifatrwydd fy nheulu a ffrindiau, felly dw i wedi bod yn ofalus,” meddai. “Roedd e’n lot o sbort i’w wneud, a doedd dim lot wedi’i gadw allan, rhowch e fel’na.”

‘Bob tro dw i’n bwyta dw i’n teimlo’n euog’

Un o’r pethau annisgwyl mae Melanie Owen eu datgelu yn y llyfr yw’r diffyg hunanhyder sy’n ei phoeni ers ei harddegau, a’i phroblem bwyta. Er ei bod hi wedi crybwyll y pwnc ar ei phodlediad Mel, Mal, Jal gyda Mali Ann Rees a Jalisa Andrews, dyw hi heb ei drafod llawer ar goedd.

“Mae yn rhywbeth dw i eisie bod yn gyfrifol gydag e,” meddai. “Mae yn bwnc sy’n effeithio ar fwy o bobol nac ry’n ni’n sylweddoli… Does gen i mo’r atebion chwaith, a dw i’n dal yn rhywun sy’n gorfod byw gyda’r pwysau yna – bob tro dw i’n bwyta rhywbeth dw i’n teimlo’n euog. Dyw hwnna ddim yn feddylfryd iachus, ond dw i’n byw gyda hwnna ac yn trio gwella fy iechyd meddwl o gwmpas y pethe yna.

“Ro’n i eisiau siarad amdano fe achos mae e’n rhywbeth dw i’n fwy ymwybodol ohono fe nawr. O’n i yn trio pwyntio at le’r oedd hwn wedi dechrau.”

Mae hi’n trafod mater difrifol a allai fod wedi cyfrannu at y broblem. Roedd ei chorff wedi datblygu yn gyflymach ac yn wahanol i’w ffrindie gwyn, a hynny’n golygu bod oedolion ac athrawon yn ymateb iddi fel rhywun hŷn na’i hoedran. Yn ogystal â gallu prynu diod mewn tafarndai yn 14 oed, mae hi’n honni bod disgwyliadau annheg arni ac y byddai weithiau’n cael ei chosbi yn waeth na’i ffrindiau. ‘Adultification’ yw’r term am hyn, meddai – yn ôl rhai dyma sy’n esbonio pam bod merched ifanc Du yn cael cosbau llymach yn y llysoedd barn na merched gwyn o’r un oedran.

“Nawr alla i edrych nôl a meddwl – o, dyna pam o’n i’n cael fy nhrin fel oedolyn pan do’n i ddim,” meddai. “I ferched sy’n cael eu geni nawr sydd yn Frown, dw i’n gobeithio na fydd yn gymaint o beth wrth iddyn nhw dyfu, os ydyn ni ychydig bach mwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd.”

Sylwadau hiliol yn y diwydiant teledu Cymraeg

Yn ogystal â rhannu’r gwersi mae hi wedi’u dysgu, mae awdur OEDOLYN (ISH!) hefyd yn cynnig gwersi i bobol gwyn – wrth iddi ddatgelu rhai sylwadau annerbyniol a hiliol mae hi wedi’u clywed ers iddi ddechrau ymddangos ar S4C neu ar lwyfannau comedi.

Yn gynnar yn ei gyrfa gomedi, ar ôl iddi gamu ar y llwyfan a chyn iddi ddweud gair, dyma ddyn yn y rhes ffrynt yn troi at ei ffrind a dweud ‘For fuck’s sake’.

A dyna rywun ifanc o’r diwydiant teledu yn siarad yn nawddoglyd â hi yng Nghlwb Ifor Bach un tro, yn dweud pa mor bwysig yw bod ‘pobol sy’n edrych fel hi’ yn gallu ei gweld hi ar y teledu i’w hysbrydoli. ‘Ro’n i’n teimlo mor patronised yn sefyll fynna’n nodio wrth i’r plentyn yma, oedd gyda dim syniad o’r rhagfarnau mae’n rhaid i fi frwydro yn eu herbyn bob dydd, esbonio i fi pa mor dda ydy e bod pobl Frown nawr yn cael bod ar y teledu chydig mwy.’

Dywed wedyn: ‘Dydyn nhw ddim yn gwybod sut mae’n teimlo i wybod bod gyrfa cyflwyno gen i ddim ond achos bod George Floyd wedi cael ei ladd. Dydyn nhw ddim wedi gorfod eistedd fynna wrth i ymchwilydd jocian ’mod i’n ‘mongrel’ oherwydd fy nghefndir cymysg. Dydyn nhw erioed wedi gorfod gwrthod swydd gyffrous achos bod y cynhyrchydd yn meddwl bod e’n iawn i ddweud ‘nigger’ – ‘cyn belled â bod e’n jôc’…’

Beth oedd yn anodd am sgrifennu oedd gwneud yn siŵr bod hi ddim yn gwneud yn datgelu pwy oedd pwy, meddai. “Wnes i fwynhau edrych nôl ar y straeon bach mwy ffyni… roedd yn lot o sbort i’w sgrifennu fe. Ond dw i wedi gallu dad-bacio’r stwff sy’n galed i’w drafod.

“Os oes yna bersonoliaeth ynddo fe sydd wedi efallai gwneud y peth rong tuag ata i, mae e’n galed – achos d’ych chi ddim eisie eu darlunio fel gelyn y darn. Dw i eisiau pwysleisio bod neb yn berffaith a’n bod ni i gyd yn gwneud camgymeriadau. Ond mae’n bwysig siarad am yr effaith mae hwnna’n gallu cael ar rywun arall. Felly ro’n i eisie dangos fy mod i’n maddau i’r bobol yna oedd wedi gwneud cam, ond maen nhw’n rhan o fy stori i.”

Mae hi’n cyflwyno’r llyfr i’w rhieni am eu cariad a’u cefnogaeth. ‘Rydyn ni wedi dod mor bell heb orfod mynd i therapi teuluol – dwi’n gobeithio nad y llyfr yma fydd yn ein gwthio ni dros y dibyn.’

Yr argraff a gaiff y darllenydd o’r llyfr yw bod Mel Owen yn ferch fentrus, hoffus ac egwyddorol. Prawf o hynny yw’r ffaith iddi brynu tocyn awyren i Los Angeles ar ei phen ei hun ar ôl i fachgen dorri ei chalon yn rhacs. Mynnodd gael ei throed drwy ddrws y Comedy Store, a chael rhannu llwyfan gyda digrifwyr adnabyddus. ‘Wrth gamu ar yr awyren i LA, ro’n i wedi dewis, a’r dewis yna oedd fi fy hunan,’ meddai.

Mae wedi cael sawl swydd gyflwyno ar deledu – Ffermio, Hansh, a Heno, rhaglen Eisteddfod, a rhaglen ddogfen gyda’r digrifwyr Priya Hall a Leila Navabi am eu paratoadau i fynd i ŵyl ffrinj Caeredin.

Roedd gwneud y llyfr yn ymarfer da iddi, meddai. “Dw i’n un o’r rhain sy’n meddwl – dw i ddim lle dw i eisie bod, y peth nesa’, y peth nesa’… Roedd yn gyfle da iawn i fi allu edrych nôl ar beth dw i wedi’i wneud, mewn amser eitha’ byr, ond hefyd i ddefnyddio hwnna i ofyn lle dw i eisie bod erbyn y llyfr nesa’.”

Gwaith stand-yp sy’n mynd â “70%” o’i hamser erbyn hyn. Mae hefyd yn sgriptio rhaglenni ysgafn i BBC Radio 4, ac ar fin sgrifennu comedi i Netflix. Pe baen nhw’n darllen y llyfr, mae’n debyg byddai’r bechgyn anaeddfed yna (tybed pwy oedd y chwaraewr rygbi o Glydach a’r newyddiadurwr o Grangetown?) yn dyfaru bod mor ddi-hid o’i theimladau.

  • OEDOLYN (ISH!) Mel Owen, y Lolfa, £10.99

Laff… a chwyno am gamdreiglo

Barry Thomas

Gyda’r tywydd wedi troi a’r tymheredd wedi gostwng, a le ddaw’r gair nesaf o gysur? O lyfr newydd merch ffraeth a ffynci, dyna o le!