Gyda’r tywydd wedi troi a’r tymheredd wedi gostwng, o le ddaw’r gair nesaf o gysur?
O lyfr newydd merch ffraeth a ffynci, dyna o le!
Bu Melanie Owen yn poeni a oedd hi yn rhy ifanc, a hithau ond yn 29 oed, i fod yn sgrifennu hunangofiant.
Wel, o ddarllen ei chyfrol newydd, OEDOLYN (ISH!), fe allech chi fod yn pendroni a ydy hi’n rhy gynnar i ni fod yn gosod y teitl Trysor Cenedlaethol ar sgwyddau’r ferch ddoniol ac eofn?
Wele flas bach o’i rhagair…
‘Os oeddech chi’n un o’r bobl yn 2023 benderfynodd mai Sage Todz oedd y bygythiad mwyaf i’r iaith Gymraeg ers y Welsh Not, plis rhowch y llyfr yma lawr achos dyw e ddim yn mynd i wella eich teimladau am Wenglish na phobl Frown.
Serch hynny, dwi kind of yn gobeithio bydd rhywun yn cwyno amdana i yn y pits of hell – AKA Rhwydwaith Menywod Cymru. Os nad oes rhywun o’r enw Myfanwy neu Gladys yn dragio fi am fod yn hwch anfoesol ar Rwydwaith Menywod Cymru, fydda i’n reit siomedig.’
Ac wele berlan arall am ei magwraeth yn Aberystwyth…
‘Dyna lle cefais i fy magu gan deulu sydd bach yn Gardi a bach yn sir Ddinbych, felly mae fy ngeirfa yn gymysgedd o Gog, canolbarth a pha bynnag shit maen nhw’n siarad i’r de o Landysul. Mae fy ffrindiau deheuol yn cymryd y piss ohona i fel mae hi am ddweud pethau fel ‘fatha’ a ‘sdi’ er ’mod i’n 25 oed cyn mynd i unrhyw le yn y gogledd heblaw am Ddinbych ac Wrecsam, a doedden ni Gymry Cymraeg ddim yn cyfri Wrecsam fel ardal oedd actsiwali yng Nghymru cyn 2020, nad oedden ni?’
Mae gan Non Tudur gyfweliad difyr iawn gyda Mel ar dudalen 24 yn trafod sawl peth pwysig. Ond wir, os ydych chi am fwynhau llais newydd ffresh yn Gymraeg, ewch ati i ddarllen OEDOLYN (ISH!).
Camdreiglo
Ydan ni dal i gwyno am gamdreiglo?
A waeth fyth, a hithau yn 2024, ydan ni dal i deimlo bod ganddo ni’r hawl i gywiro pobol sy’n camdreiglo wrth siarad Cymraeg?
Wrth sôn am y targed o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae’r Prif Weinidog wedi dweud: “Mae bod yn anfeirniadol am ansawdd a safon Cymraeg rhywun yn wirioneddol bwysig.”
Yn 57 oed ac wedi ei magu yng Nghaerdydd, mae Eluned Morgan yn dweud fod “bron pawb” aeth i ysgol Gymraeg yn teimlo “oni bai eich bod yn treiglo’n gywir, yn siarad mewn ffordd benodol iawn, nad yw’n ddigon da…
“Rwy’n meddwl bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r rhyddid i bobl roi cynnig arni, ac mae unrhyw fath o ymgais yn ymgais dda, ac i gefnogi a chefnogi hynny.”
Clywch clywch.
Wedi’r cwbwl, gwell Cymraeg slac na Saesneg slic any day of the week, Mostyn!