Mawr yw’r sôn am “droi’r dudalen” ar gyfnod ciami i’r Ceidwadwyr yn San Steffan, ond mae awch gan rai i wneud yr un peth ym Mae Caerdydd hefyd…

Yn dilyn canlyniad etholiad cyffredinol gwaethaf y Blaid Geidwadol mewn 200 mlynedd, mae’r angen i drawsnewid y blaid yn amlwg i bawb.

Bron i dri mis ers i Keir Starmer ddisodli Rishi Sunak, mae’r Torïaid dal i bendroni beth – a phwy – ddaw nesa’.