Mae pawb yn gwybod bellach bod yna bris i’w dalu am symud oddi wrth ddefnyddio tanwydd ffosil at ddefnyddio tanwydd gwyrdd. Mae pobol Port Talbot yn gwybod hynny yn well na neb.

Efallai y bydd yna rai enillion yn y tymor hir – llai o lwch a budreddi, llai o ddrewdod – ond, am y tro, i tua 4,000 o weithwyr yn y gwaith ei hun ac mewn busnesau dibynnol, mae’r dyfodol mor dywyll â’r cymylau mwg oedd yn codi o’r ffwrneisi.