Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi taliad untro o £100 i deuluoedd i’w helpu nhw i brynu cit ymarfer corff i’w plant.
Daw hyn wrth i’r argyfwng costau byw waethygu ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r pecyn cymorth gwerth £13m wedi cael ei gyhoeddi fel ffordd o helpu pobol i dalu’r gost o anfon eu plant i’r ysgol, gyda theuluoedd cymwys yn derbyn yr arian drwy’r Grant Datblygu Disgyblion yn 2022/23.
Cafodd y grant ei ymestyn yn ddiweddar fel ei fod yn cynnwys disgyblion ysgol o bob oed sy’n gymwys ar gyfer prydau bwyd am ddim, cynllun sydd hefyd wedi cael ei ymestyn i deuluoedd drwy gydol gwyliau’r Pasg, yr haf a’r Sulgwyn ar gost o £21.4m.
‘Pwysau sylweddol’
“Yng nghanol yr argyfwng costau byw Torïaidd hwn, mae cyllidebau cartrefi dan bwysau sylweddol ac fe fydd nifer o rieni’n poeni ynghylch sut maen nhw’n gallu fforddio’r pethau sydd eu hangen ar eu plant ar gyfer yr ysgol,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru.
“Bydd y teuluoedd hynny sy’n derbyn y Grant Mynediad PDG eisoes yn defnyddio’r £200 i’w helpu i dalu am wisg ysgol eu plant.
“Bydd y taliad ychwanegol hwn yn helpu i dalu costau eraill, megis cit ymarfer corff, esgidiau ar gyfer yr ysgol a chyfarpar arall, gan helpu cyllidebau cartrefi i fynd ychydig ymhellach.
“Rwy’n falch ein bod ni’n gallu rhoi ychydig mwy o gymorth i deuluoedd ar yr adeg anodd hon, a dileu rhai o’r rhwystrau ariannol i addysg.”
Cynhadledd Llafur
Daw hyn ar ôl cynhadledd y Blaid Lafur dros y penwythnos.
Yn bresennol yn y gynhadledd roedd Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, oedd wedi galw Llywodraeth Cymru’n “lasbrint ar gyfer yr hyn y gallai Llafur ei wneud ledled y Deyrnas Unedig”.
“Dychmygwch beth allem ei wneud pe bai gennym y Llywodraeth Cymru hon yn cydweithio â Llywodraeth Lafur yn San Steffan – y fath newid y gallem ei wneud a’r gwahaniaeth y gallem ddod ag e i filiynau o fywydau,” meddai.
“Nid breuddwyd gwrach mo hon; dyna ein gorchwyl.
“Nid yn unig rydyn ni ar y ffordd i’r [etholiadau] lleol ym mis Mai, ond rydym hefyd ar y ffordd i’r etholiad cyffredinol nesaf.
“Boed y flwyddyn nesaf neu’r flwyddyn ar ôl yr etholiad cyffredinol, dyma ein cyfle i ail-greu yr hyn rydyn ni’n ei weld yng Nghymru ledled y Deyrnas Unedig.”
Roedd Syr Keir Starmer yn y gynhadledd ar ôl dychwelyd o Estonia, lle bu’n cyfarfod â lluoedd NATO.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llafur o fod yn “wrth-uchelgais, yn wrth-swyddi ac yn wrth-gyfleoedd”.