Mae Jane Dodds yn galw ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i gydweithio er mwyn sicrhau eu bod nhw a gwledydd eraill yn llai dibynnol ar olew a nwy o Rwsia drwy droi Cymru’n “bwerdy adnewyddadwy”.
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, dylid sicrhau bod unrhyw brosiectau sydd ar y gweill neu sydd wedi cyrraedd y cyfnod cynllunio gael eu cyflymu ar unwaith, gan ddweud y byddai pawb ar eu hennill, nid yn unig drwy helpu i leihau dibyniaeth ar Rwsia ond drwy roi hwb i swyddi ac amgylchedd Cymru.
Ar hyn o bryd, mae Cymru’n allforio dwywaith y pŵer mae’n ei ddefnyddio, ac mae tua 48% o drydan sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru eisoes yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.
Ond gydag ynni’r llanw yn y de a’r gogledd, a gwynt yn y gorllewin, mae’r potensial i greu ynni mewn hen ardaloedd glofaol a phŵer hydro drwy’r wlad, mae gan Gymru beth o’r potensial mwyaf ar gyfer economi werdd o blith holl wledydd Ewrop.
‘Helpu i ddatgarboneiddio’
“Mae Cymru’n ddigon ffodus fod ein lleoliad a’n hadnoddau naturiol digonol sy’n helpu’r hinsawdd yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa nid yn unig i gyrraedd hunangynhaliaeth adnewyddadwy llawn o ran cyflenwadau ynni yma yng Nghymru, ond hefyd i gyfrannu’n weithredol at helpu ein cynghreiriaid yn yr Undeb Ewropeaidd i ddatgarboneiddio,” meddai Jane Dodds.
“Ond yr hyn sydd ei angen arnom i gyrraedd hyn yw uchelgais.
“Mae angen chwyldro diwydiannol gwyrdd llawn arnom er mwyn gwneud y defnydd mwyaf o’r ynni rydyn ni’n ei gynhyrchu o’r gwynt, y llanw a phŵer hydro.
“Mae hyn yn golygu mynd y tu hwnt i brosiectau sydd eisoes yn yr arfaeth.
Cydweithio
“Er mwyn gwneud hyn, fe fydd angen i ni weld llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cydweithio â’r sector preifat i ddod â mwy o fuddsoddiad i’r sector adnewyddadwy yng Nghymru,” meddai wedyn.
“Dylen ni fod yn buddsoddi mewn unrhyw brosiect sy’n cynnig cyfle da o leihau’r galw domestig ac yn ehangu cyflenwadau rhyngwladol.
“Rhaid cyflymu prosiectau sydd yn y cyfnodau cynllunio neu gynnig.
“Mae’r manteision a ddaw o gynyddu ein cynhyrchiant ynni gwyrdd yn mynd y tu hwnt i helpu’n cynghreiriaid i leihau eu dibyniaeth ar Putin.
“Byddai’n golygu biliau is i gwsmeriaid Cymreig sy’n cael eu taro gan argyfwng costau byw sy’n cael ei achosi gan ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil.
“Byddai hefyd yn golygu miloedd o swyddi â sgiliau uchel mewn diwydiannau sydd wedi’u diogelu ar gyfer y dyfodol.
“Fodd bynnag, rhaid i ni sicrhau bod yr arian sy’n cael ei gynhyrchu o’n hadnoddau naturiol helaeth yn cael ei wario yng Nghymru a’i fod o fudd i gymunedau lleol.
“Dylai cynhyrchu tyrbinau gwynt, batris hydrogen a chydrannau adnewyddadwy eraill ddigwydd y tu fewn i Gymru.
“Does dim rheswm da pam na all Cymru fod yn Fatri Gwyrdd Gorllewin Ewrop.
“Yr unig beth sy’n ein dal ni’n ôl yw diffyg ysgogiad ar gyfer y sector preifat a diffyg diddordeb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn arbennig.”