Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan eu bwriad i fod yn awdurdod carbon niwtral erbyn 2030.
Daw hyn ar ôl iddyn nhw fuddsoddi £3m o’u cyllideb ar gyfer 2022/23 yn eu Cynllun Newid Hinsawdd, sy’n cynnwys amryw o brosiectau i hyrwyddo cynaliadwyedd ac eco-gyfeillgarwch.
Yn 2019, fe wnaeth yr awdurdod lleol ddatgan argyfwng hinsawdd ac ymrwymo i “wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod y sir yn parhau i fod yn “gartref bywiog, hyfyw a chynaliadwy i’n plant ac i blant ein plant am genedlaethau i ddod”.
Fe gytunodd y Cyngor llawn i fabwysiadu’r cynlluniau ar gyfer yr hinsawdd yn ystod eu cyfarfod ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 8).
Yn sgil hynny, fe fydd y Cyngor nawr yn mynd ati i gynyddu’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan sydd ar gael, gwneud adeiladau cyhoeddus yn ynni-effeithlon, hyrwyddo bioamrywiaeth, a chefnogi’r economi gylchol drwy leihau gwastraff.
‘Rhaid dwysau’r gwaith’
Dywed y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, fod angen mwy o waith eto er mwyn lleihau effeithiau’r argyfwng hinsawdd.
“Mae’n wir dweud mai newid yn yr hinsawdd ydi un o heriau mwyaf ein hoes, ac mae’n gofyn am weithredu ar y cyd gan bob un ohonom,” meddai.
“Mae gennym le i fod yn falch o’r gwaith blaengar yr ydym fel Cyngor wedi ei gyflawni dros y degawd diwethaf.
“Trwy fuddsoddi mewn technoleg newydd a mwy effeithiol fel paneli solar, boeleri ynni-effeithlon mewn adeiladau cyhoeddus, gosod lampau LED ar ein strydoedd a thorri lawr ar siwrnai car staff, fe wnaethom lwyddo i dorri 58% o ôl-troed carbon y Cyngor rhwng 2005/06 a 2019/20.
“Ond mae’n rhaid dwysau’r gwaith yma ar y cyd gyda’n partneriaid.
“Mae’r cynllun yma yn gosod allan nifer o gamau cadarnhaol y byddwn yn eu cymryd wrth i anelu tuag at yr uchelgais nesaf o weld Cyngor Gwynedd yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030 a’r nod yn y pendraw o fod yn gwbl ddi-garbon.”
‘Cylch dieflig’
Un o flaenoriaethau’r Cyngor yn eu cynllun newydd yw sicrhau bod gwelliannau’n cael eu gwneud ym maes bioamrywiaeth, oherwydd bod cydberthynas glir rhwng hynny a newid hinsawdd.
“Fel mae ein huchelgais yn awgrymu, rydym am roi lle teilwng i’r gwaith sydd angen ei gyflawni ym maes bioamrywiaeth,” meddai Dyfrig Siencyn wedyn.
“Wrth gwrs, mae hwn yn faes lle byddwn yn cydweithio’n agos gyda nifer o bartneriaid a thrigolion Gwynedd.
“Y ffaith ydi, gall newidiadau i dymheredd a glawogydd yn sgil newid hinsawdd arwain at golli cynefinoedd byd natur, ac mae colli’r cynefinoedd hynny yn ei dro yn cynyddu’r lefelau o garbon yn yr amgylchedd.
“Mae’n gylch dieflig y mae’n rhaid ei dorri ac mae’r cynllun yma yn amlinellu cynlluniau y byddwn yn gweithio arnynt yn y maes pwysig yma.
“Mae’r cynllun cychwynnol sydd wedi ei gymeradwyo yn fan cychwyn cadarnhaol ond byddwn yn adeiladu arno gan drafod gyda chymunedau Gwynedd a phartneriaid i ystyried sut y gallwn gefnogi ein gilydd i gynnal a gwireddu prosiectau yn y maes.”
Yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol eraill ledled Cymru hefyd wedi bod yn ymateb i her yr hinsawdd mewn ffyrdd gwahanol.