Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynnig lloches i ffoaduriaid o’r Wcráin yn cael eu “tanseilio” gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd Jane Hutt “nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi creu llwybr dyngarol digonol” er mwyn galluogi ffoaduriaid i dderbyn lloches yng Nghymru.

Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg mai dim ond 760 o fisas i ffoaduriaid o’r Wcráin sydd wedi cael eu prosesu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae hyn yn cymharu â’r Undeb Ewropeaidd lle mae polisi drysau agored wedi galluogi Hwngari i gymryd dros 190,000 o ffoaduriaid, tra bod yr Almaen wedi rhoi lloches i dros 50,000.

Mae’n debyg bod Gwlad Pwyl wedi cymryd dros 1.2m o ffoaduriaid erbyn hyn.

Yn y cyfamser, mae 7,000 o ffoaduriaid wedi cyrraedd yr Eidal, ac mae Iwerddon wedi croesawu tair gwaith yn fwy o ffoaduriaid na’r Deyrnas Unedig.

“Cenedl noddfa”

“Rydym yn falch o fod yn genedl noddfa yma yng Nghymru,” meddai wrth golwg360.

“Cafodd hynny ei brofi gan ein hymdrechion i gynnig lloches i ffoaduriaid o Affganistan yn ystod yr haf.

“Fel Llywodraeth buom yn gweithio gyda’r Urdd, awdurdodau lleol, gwasanaethau ffoaduriaid trydydd sector, prifysgolion ac ysgolion i sicrhau bod Cymru yn genedl noddfa.

“Yr hyn rydym eisiau ei wneud nawr yw gwneud hynny yn realiti i ffoaduriaid o’r Wcráin.

“Y broblem ydi nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi creu llwybr dyngarol digonol iddyn nhw ddod yma.

“Dyna pam ein bod ni, y Prif Weinidog a minnau, wedi bod yn glir iawn ddoe wrth alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sefydlu llwybrau dyngarol cyflym er mwyn i ffoaduriaid allu cael lloches yma yng Nghymru.

“Hyd yma, dydyn nhw ddim wedi gallu dod yma.

“Rydym wedi clywed llawer o straeon yn ystod y 24 awr ddiwethaf am bobol sy’n ceisio dod yma i Gymru.

“Serch hynny, rydym yn ymwybodol mai dim ond tua 500 i 600 o fisas sydd wedi cael eu prosesu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, tra bod o gwmpas 18,000 o geisiadau wedi cael eu cyflwyno.

“Yn y cyfamser, rydym yn gweld pobol yn styc yn Calais.

“Felly mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu er mwyn i ni allu cyflawni ein huchelgais o fod yn genedl noddfa.”

‘Rhwystredig’

“Mae’n eithriadol o rwystredig oherwydd yn anffodus nid gennym ni mae’r pŵer i newid y sefyllfa, gan y Swyddfa Gartref y mae’r pŵer i wneud hynny,” meddai wedyn.

“Rydym yn pwyso arnyn nhw i weithredu er mwyn gallu darparu lloches fel cenedl noddfa ac rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth yr Alban – sydd yn yr un sefyllfa – yn ogystal ag awdurdodau lleol.

“Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn dweud union yr un peth ac yr ydym ni wedi ei ddweud o ran hwyluso’r broses fisa.

“Er enghraifft, maen nhw’n dal i fynnu cael tystiolaeth biometrig cyn i bobl adael Wcráin.

“Wel, mae hynny yn hollol ddiangen ac mae’n gwbl amlwg nad ydym yn caniatáu i’r ffoaduriaid hyn drwodd.

“Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i helpu yn cael eu tanseilio ar adeg lle’r ydym yn gweld pobol mor ddewr yn ceisio ffoi rhag rhyfel.

“Yr hyn sy’n ddiddorol ydi bod y drysau yn agored yn yr Undeb Ewropeaidd, does dim angen dim o hyn arnyn nhw, maen nhw’n cael dod heb drafferth.

“Ac mae’n rhaid i mi ddweud ein bod ni (Llywodraeth Cymru) wedi cyfrannu £4 miliwn tuag at y Pwyllgor Trychineb ac Argyfwng oherwydd yr hun ddaeth i’r amlwg yn gyflym iawn wrth glywed gan gydweithwyr yn yr Wcráin a mudiadau ffoaduriaid oedd bod angen arian arnyn nhw.

“Maen nhw’n gwybod lle gall yr arian yna gael ei wario orau.

“Mae pobol yng Nghymru wedi bod yn eithriadol o hael, ac mae’n dda gweld bod y gronfa cymorth bellach wedi cynyddu i £6.5m – £4m gan Lywodraeth Cymru a £2.5m gan ddinasyddion Cymru.”

Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru

‘Chwarae ein rhan’

Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod angen rhagor o gymorth ariannol ar awdurdodau lleol i allu helpu ffoaduriaid o Wcráin i setlo yng Nghymru.

“Mae’n gwbl briodol bod Cymru’n chwarae ein rhan i helpu teuluoedd sy’n ffoi er mwyn cael heddwch a noddfa yma wrth iddyn nhw ddianc rhag y rhyfel yn Wcráin,” meddai Sam Rowlands, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth Leol.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod gan gynghorau ddigon o arian i gefnogi ffoaduriaid gan eu bod eisoes dan bwysau mawr, ac mae angen sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn gallu ateb y galw.

“Mae’n siomedig nad oes sôn am hyn yn y Setliad Llywodraeth Leol ac yn gobeithio y bydd gweinidogion Llafur yn gwneud y peth iawn ac yn cyhoeddi pecyn o fesurau cyn gynted â phosibl.”

Wrth ymateb i gwynion y Ceidwadwyr Cymreig, mynnodd Jane Hutt bod Llywodraeth Cymru yn “gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cynlluniau awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru yn barod i gefnogi ffoaduriaid, ac maen nhw eisoes yn goruchwylio cynlluniau sy’n cefnogi ffoaduriaid o Syria ac Affghanistan”.

“Rydym yn barod i helpu, ond mae angen i ni weld yr holl rwystrau yma sy’n nadu ffoaduriaid rhag cael trwodd yn cael eu diddymu fel bod pobl yn gallu cyrraedd Cymru,” meddai.

“Unwaith maen nhw’n cyrraedd Cymru, mae ein gwasanaethau addysg, ein gwasanaethau tai a phopeth felly yn disgyn o dan gyfrifoldeb datganoledig.

“Fe allai hyn fod yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol, ond ar hyn o bryd dim ond hyn a hyn yr ydym yn gallu ei gyflawni.

“Efallai y dylai’r Ceidwadwyr Cymreig fod yn galw ar eu Llywodraeth nhw i weithredu’n gadarnhaol.”

Galw ar Gymru “arwain y ffordd”

Rhywun sy’n credu fod ganddo atebion ydi Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, sydd am i Gymru greu “cynllun nawdd Cymreig wedi’i gydlynu’n genedlaethol” i ffurfio llwybr dyngarol i ffoaduriaid sy’n ffoi o Wcráin.

“Mae’r sôn o San Steffan am lwybr dyngarol sy’n cynnwys nawdd gan awdurdodau lleol, unigolion neu gwmnïau preifat yn rhwystr biwrocrataidd cwbl ddiangen,” meddai.

“Ond o ystyried eu bod wedi gosod y rhwystr hwnnw yno, gallem helpu i’w leihau drwy greu cynllun nawdd Cymreig wedi’i gydlynu’n genedlaethol.

“Yn union fel y croesawodd Cymru gannoedd o blant Basgeg oedd yn ffoi o ffasgiaeth yn 1937, mae hyn yn rhywbeth y gallai Cymru ei efelychu nawr – nid yn unig yn y cannoedd, ond yn y miloedd.

“Os nad yw San Steffan yn gallu dangos dynoliaeth, yna mae’n rhaid i Gymru arwain y ffordd.”