Mae elusen sy’n taclo digartrefedd wedi apelio ar drigolion Cymru i groesawu ffoaduriaid i’w cartrefi.

Yn ôl Cyfiawnder Tai Cymru, gall darparu lloches i unigolion sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig o Wcráin fod yn “achubiaeth”, tra eu bod nhw’n aros am loches mwy hirdymor.

Yn sgil yr argyfwng sy’n datblygu yn Ewrop, mae Llywodraeth Cymru a’r holl awdurdodau lleol wedi cytuno y byddan nhw’n rhoi cymorth i ffoaduriaid.

Ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael eu beirniadu am eu hymateb nhw hyd yn hyn, gyda nifer o bobol yn cael eu gwrthod rhag cael mynediad i’r wlad.

Mae sawl un wedi cyfeirio at ymateb gwledydd eraill Ewrop a’r gwahaniaeth yn y niferoedd y maen nhw wedi eu croesawu o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig.

Y Swyddfa Gartref yn San Steffan sydd â’r cyfrifoldeb yn y pen draw dros unrhyw gynllun swyddogol ar gyfer ffoaduriaid, ac mae unrhyw ymateb yn dibynnu ar eu gweithredoedd nhw.

Apêl

Er hynny, mae ffoaduriaid yn parhau i ymbil am groeso yng Nghymru, ac mae’r alwad am letyau dros dro yn tyfu o hyd.

Mae Bonnie Williams, Cyfarwyddwr Cyfiawnder Tai Cymru, wedi adleisio’r alwad honno.

“Mae Cyfiawnder Tai Cymru yn apelio ar unrhyw un sydd ag ystafell sbar i letya ffoaduriaid o Wcráin – menywod a phlant gan fwyaf – sydd yn chwilio am noddfa yng Nghymru yn ystod yr amseroedd cythryblus hyn,” meddai.

“Fel Cenedl Noddfa, mae ffoaduriaid yn cael eu gwahodd i Gymru ar gyfer diogelwch, ond mae diffyg llety ar eu cyfer.

“Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddarparu cartrefi ar gyfer y rheiny sy’n ddigartref yng Nghymru, ac o ganlyniad, does dim llawer o le i groesawu ffoaduriaid Wcráin.

“Rydyn ni angen eich help.”

Er mwyn canfod mwy am gynllun lletya’r elusen, gallwch ymweld â’u gwefan.