Mae’r rhyfel yn Wcráin yn arwydd fod economi nwy ac olew yn economi sylfaenol ansefydlog ac annheg, a bod rhaid ei gadael mor fuan â phosib, yn ôl economegydd sydd wedi bod yn siarad â golwg360.

Ers blynyddoedd, mae’r Athro Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn ysgrifennu am yr angen i symud at ffynonellau ynni adnewyddadwy a hunangynhyrchu ynni.

Yn ôl yr economegydd sy’n arbenigo ar ynni, bydd y rhyfel yn Wcráin a’r sancsiynau yn erbyn tanwydd ffosil Rwsia yn arwain at fwy o gynnydd mewn prisiau a biliau.

Bydd y Deyrnas Unedig yn dod â’r defnydd o olew o Rwsia i ben yn raddol erbyn diwedd 2022, ond hyd yn hyn, dydyn nhw ddim yn bwriadu torri’r cyflenwad nwy.

Mae’r tarfu hwn yn arwydd o’r problemau fydd yn codi yn y tymor hir o ddibynnu ar olew a nwy o wledydd fel Rwsia a’r Dwyrain Canol, meddai Calvin Jones.

Ychwanega nad oes yna ateb hawdd i’r broblem yn y tymor byr, a bod prisiau petrol a disel yn arbennig yn debygol o barhau i godi cyn belled â bo’r rhyfel yn parhau yn Wcráin.

‘Os yw’r galw yn aros yr un fath, yna mae’r prisiau’n codi’

“Rydyn ni’n gweld cynnydd mewn prisiau nwy yn barod,” meddai Calvin Jones wrth golwg360, gan gyfeirio at y cynnydd yn y cap ar brisiau nwy a fydd yn dod i rym fis Ebrill.

“Pan rydych chi’n symud i ffwrdd oddi wrth gyflenwad penodol, mae’r cyfyngiadau ar y cyflenwad, ac os yw’r galw yn aros yr un fath, yna mae’r prisiau’n codi.”

Mae’r sefyllfa o ran nwy yn fwy cymhleth gan nad yw’r Deyrnas Unedig yn ei fewnforio’n uniongyrchol o Rwsia.

“Rydyn ni’n tueddu i fewnforio nwy o lefydd yn y Dwyrain Canol, fel Qatar, sy’n dod mewn yn Aberdaugleddau ar y llongau mawr.

“Wrth gwrs, mae’r prisiau ar gyfer y nwy hwnnw’n cael eu gosod yn fyd-eang, felly hyd yn oed os nad ydyn ni’n mewnforio’n uniongyrchol o Rwsia mae pris y nwy dal yn codi, a bydd pobol eraill yn bidio yn ein herbyn ni am y llongau hynny – efallai fydd yn mynd i Japan [neu] America yn lle.”

Golyga hynny y bydd prisiau nwy yn y Deyrnas Unedig yn codi er nad ydyn nhw’n dod yn uniongyrchol o Rwsia, meddai.

Prisiau petrol

Mae’r RAC yn dweud y gallai pris cyfartalog petrol di-blwm gyrraedd 160c y litr erbyn diwedd yr wythnos, ac y gallai disel gyrraedd 165c.

Ar hyn o bryd, mae’r Deyrnas Unedig yn cael 8% o’u mewnforion olew o Rwsia, a rhyw 18% o’u disel, ac mae’n debyg y bydd prisiau petrol a disel yn codi eto, yn ôl Calvin Jones.

“Rydyn ni’n gweld prisiau uwch na £1.50 y litr yn barod, bydd prisiau yn parhau i godi cyn belled â bod y rhyfel yn parhau, dw i’n meddwl.

“Gallwch chi ddychmygu bod pobol am fod yn stockpileio olew nawr hefyd.”

Chwilio am ffynonellau newydd

Does yna ddim ateb hawdd i ddatrys y sefyllfa yn y tymor byr, ychwanega Calvin Jones.

“Dyna’r peth diddorol am y drafodaeth hon, rydyn ni’n gweld, nid jyst y Deyrnas Unedig, ond lot o genhedloedd yn y gorllewin, yn chwilio o gwmpas am ffynonellau ynni ffosil eraill,” meddai.

“Ac mae hynny’n eithaf anodd, mae Rwsia’n allforiwr nwy ac olew mawr. Allwch chi ddim dod o hyd i rywbeth yn lle hwnnw’n sydyn, does yna ddim digon o bethau ar ôl yn y ddaear.

“Rydyn ni’n gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn siarad am fwy o dyllu ym Môr y Gogledd, yn gweld gwleidyddion yn siarad am ffracio yn y Deyrnas Unedig.”

Heddiw, cyhoeddodd Kwasi Kwarteng, Ysgrifennydd Busnes y Deyrnas Unedig, y byddan nhw’n cyhoeddi eu Strategaeth Ynni yn fuan, a fydd yn cyflymu’r gwaith o gynyddu capasiti ffynonellau ynni adnewyddadwy a niwclear, yn ogystal â chefnogi dryllio am olew ym Môr y Gogledd a chefnogi’r diwydiant nwy wrth wneud y newid.

Mae dwy broblem gyda chwilio am danwyddau ffosil newydd, yn ôl Calvin Jones.

“Yn gyntaf, byddai hynny’n cymryd blynyddoedd a blynyddoedd, os nad degawdau, yr un peth ag ynni niwclear,” meddai.

“A’r ail broblem gyda chynlluniau newydd i echdynnu nwy ac olew yw newid hinsawdd. Os ydych chi’n bwriadu dod â nwy ac olew newydd i’r farchnad yn sgil problem fyrdymor, gobeithio, gyda’r rhyfel hwn, mae gennych chi’r broblem hirdymor o newid hinsawdd.

“Byddai hynny’n tarfu’n llwyr ar y symudiad i fod yn net sero pe bai cyflenwadau newydd yn dod ar y farchnad yn y deg, ugain mlynedd yn nesaf.”

‘Economi sylfaenol ansefydlog’

Mae hi’n anodd gweld sut nad yw’r tarfu diweddar yn awgrym y bydd hyn yn digwydd yn gyson yn y dyfodol, yn ôl Calvin Jones.

“Os ydych chi’n meddwl am gyflenwyr eraill ar gyfer ynni ffosil oni bai am Rwsia, llefydd fel Saudi Arabia, Qatar… dydy’r llefydd hyn ddim o reidrwydd yn ddemocratiaethau, rhyddfrydol, sefydlog y bydden ni’n hoffi bod yn bartneriaid iddyn nhw,” meddai.

“Oni bai am Norwy, mae’r llefydd rydyn ni’n cael nwy ac olew ohono’n llefydd problematig.

“Dw i’n meddwl bod y rhyfel hwn, a’r tarfu diweddaraf, yn arwydd arall bod economi nwy ac olew yn economi sylfaenol ansefydlog ac annheg, a bod rhaid inni ddod oddi arni mor fuan â phosib.

“Dw i’n casáu dweud ‘Ddywedais i wrthych chi’, ond dw i wedi bod yn dweud hyn ers o leiaf 15 mlynedd.

“Roeddwn i’n ysgrifennu yn 2007/08 am y tensiwn ynni a’r angen i ymestyn allan i hunangynhyrchu ac ynni adnewyddadwy yn benodol.

“Mae yna gwestiwn am niwclear, oherwydd mae’n ddrud iawn ac yn cymryd amser hir iawn i ddod ar y farchnad nawr.”

Mae’r syniad ein bod ni’n mewnforio cynnyrch a nwyddau “sylfaenol iawn o lefydd anodd” yn rhywbeth y mae’n rhaid ei wynebu, meddai Calvin Jones, gan ddweud bod a wnelo hyn â mwy nag olew yn unig.

“Yn yr un ffordd, mae pobol yn edrych ar y gwenith maen nhw’n ei gael o Wcráin ac yn meddwl am sut maen nhw am ymestyn at gyflenwadau bwyd eraill,” eglura.

“Mae yna nwyddau eraill, nicel er enghraifft [sy’n cael ei allforio o Rwsia] wedi gweld cynnydd mawr mewn prisiau.

“Mae hyn yn broblem ehangach nag olew a nwy. Mae e’n ymwneud â’r ffordd mae’r economi ryngwladol yn gweithio, neu yn yr achos hwn, y ffordd dydy hi ddim yn gweithio.”

‘Cwsmeriaid am deimlo’r boen’

Ychwanega Calvin Jones bod cwsmeriaid am deimlo’r boen wrth i brisiau godi.

“Dydy hon ddim yn broblem gydag ateb hawdd,” meddai.

“Fe welais i Weinidog Busnes y Deyrnas Unedig yn siarad am drio gwneud siŵr nad yw cwsmeriaid yn teimlo’r boen heddiw.

“Wel, mi fydd cwsmeriaid yn teimlo’r boen. Mae ynni yn mynd yn ddrytach.

“Ond yn anffodus yn y Deyrnas Unedig, a Chymru, fe wnaethon ni fethu datblygu ynni adnewyddadwy, fe wnaethon ni fethu insiwleiddio ein hadeiladau yn y deg, 15 mlynedd ddiwethaf yn y ffordd y dylen ni fod wedi gwneud, dydyn ni heb wneud prin dim i ôl-osod [inswleiddiwr].

“Felly rydyn ni’n wynebu cyfnod o drio dal fyny i gael rhywfaint o ynni gwyrdd yn llifo i’r system, ac yn y byrdymor mae hynny am olygu cyfnod o newid, ac, mae’n debyg, cyfnodau anodd i gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig.”