Dylai pobol Ynys Môn weld mwy o fuddion o ddatblygiadau ynni, yn ôl adroddiad newydd, gyda swyddogion yn cynnig rhoi mwy o help i fentrau cymunedol.
Mae llawer o gynlluniau ar y gweill, gan gynnwys ffermydd solar a gorsaf niwclear newydd ar safle’r Wylfa, sydd wedi annog Cyngor Ynys Môn i geisio cynyddu’r arian mae cymunedau’n ei dderbyn drwy’r datblygiadau.
Roedd adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith yr wythnos hon yn nodi bod yr awdurdod eisiau chwarae rhan ganolog yn cyrraedd statws sero-net carbon erbyn 2050, ond “na ddylai hynny fod ar unrhyw gost.”
Roedd hefyd yn pwysleisio bod angen mwy o brosiectau cymunedol, lle mae unrhyw elw’n gallu cael ei gadw a’i ail-fuddsoddi ar yr ynys, gan ychwanegu y byddai’n rhaid i ddatblygiadau barchu’r amgylchedd, y Gymraeg a’r diwylliant.
Buddion
Cafodd strategaeth yr Ynys i geisio sicrhau mwy o arian i gymunedau o unrhyw ddatblygiadau ei llunio yn 2014, ond yn dilyn y cynnydd mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy, mae’r Cyngor eisiau cryfhau’r strategaeth honno.
“Mae’r cyngor o’r farn y gellir sicrhau mwy o fuddion i gymunedau yn gyffredinol drwy berchnogaeth gymunedol a grwpiau cymunedol,” meddai yn yr adroddiad.
“Gallai hyn gynnwys grwpiau cymunedol sefydledig, ymddiriedolaethau elusennol a mentrau cymdeithasol.
“Gellir darparu’r math hwn o fudd cymunedol yn ogystal â pherchnogaeth leol drwy fuddsoddiad unigol drwy brynu cyfranddaliadau.”
‘Parchu ein cymunedau’
Er nad oes modd gorfodi datblygwyr i roi arian yn ôl i gymunedau, dywedodd arweinydd y Cyngor, Llinos Medi, eu bod nhw am fod yn “deg, rhagweithiol, cyson a thryloyw” wrth weithio â nhw, a cheisio sicrhau “buddion arwyddocaol” i gymunedau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Carwyn Jones, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am ddatblygu economaidd, y gallai buddsoddiadau fod ar ffurf arian neu ar ffurf seilwaith.
“Gall manteision cymunedol fod yn ariannol neu’n unrhyw beth arall sy’n gallu cael ei gytuno arno tu allan i broses gynllunio,” meddai.
“Ond mae’n bwysig bod unrhyw un sy’n ystyried datblygu ar yr ynys yn glynu wrth yr egwyddor o barchu ein cymunedau, ein heconomi, ein hiaith a’n diwylliant a wir yn cysylltu â ni.
“Os nad ydyn nhw’n glynu does dim pwynt meddwl dod yma a sefydlu.”
Galwadau yn y Senedd
Y mis diwethaf, fe wnaeth Senedd Cymru gefnogi’n unfrydol y galwadau am ddeddfwriaeth sy’n gorfodi datblygwyr ynni i roi arian yn ôl i gymunedau cyfagos.
Fe wnaethon nhw hefyd roi pwysau ar y Llywodraeth i wneud hi’n ofynnol i ddatblygwyr lunio asesiad o’r effaith gymunedol a chynllun yn amlinellu’r manteision i’r gymuned yn ystod y cyfnod cynllunio.