Mae cynlluniau i godi fferm solar anferth yn Ynys Môn wedi cael eu cymharu i foddi Tryweryn yn y 1960au.
Daw’r sylwadau cyn i’r Senedd wneud y penderfyniad swyddogol ar Fferm Solar Traffwll.
Mae’r datblygwyr, sef cwmni ynni adnewyddadwy Low Carbon, wedi lansio ymgynghoriad i drafod y fenter.
Pe bai’n cael ei gymeradwyo, byddai paneli solar yn cael eu codi ar 155 erw o dir fferm – sydd tua’r un maint â 75 cae pêl-droed – ger Llanfihangel yn Nhowyn a Bryngwran yng nghanolbarth Ynys Môn.
Bydd y paneli’n gallu cynhyrchu digon o ynni i bweru tua 11,600 o dai’r flwyddyn, gan arbed dros 7,000 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn.
“Boddi tir â phaneli solar”
Mae grŵp ymgyrchu o’r enw ‘Dweud Na i Solar Traffwll’ wedi ei sefydlu i wrthwynebu’r cynlluniau.
Mae cannoedd o drigolion lleol yn Llanfihangel a Bryngwran wedi arwyddo deiseb, gan nodi byddai’r cynlluniau yn cael effaith ar fywyd gwyllt yr ardal.
“Rydyn ni wastad wedi cymharu’r datblygiad gyda boddi Cwm Celyn yn y 60au i greu cronfa ddŵr Tryweryn,” meddai un o’r ymgyrchwyr, Vaughan Evans.
“Ond yn hytrach na chwmni Seisnig yn boddi tir â dŵr, maen nhw’n boddi tir â phaneli solar i greu elw fydd ddim o fudd i’r economi leol.”
Cyfle i ddarparu egni glân
Mae cwmni Low Carbon yn pwysleisio bydd y cynlluniau’n ystyried amgylchedd yr ardal yn llawn, gan ychwanegu y bydd y tir yn dychwelyd i’w natur amaethyddol unwaith y bydd oes y paneli wedi dod i ben.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar y prosiect hwn ers 2018 ac rydyn ni wedi gwneud diwygiadau sylweddol yn dilyn ymgynghoriad lleol gyda thrigolion a chyfranddalwyr, yn ogystal â dadansoddiad technoleg a gwaith maes,” meddai Pennaeth Datblygu Low Carbon, James Hartley-Bond.
“Mae cynlluniau’r prosiect ar hyn o bryd yn cynrychioli ein hamcanion gorau, ac rydyn ni’n teimlo eu bod nhw’n rhoi cyfle sylweddol i ddarparu egni glân ac adnewyddadwy, a gwelliannau i fioamrywiaeth, heb effeithiau gormodol ar yr ardal leol.”