Bydd Gŵyl Banc pedwar diwrnod yn y Deyrnas Unedig yn rhan o’r cynlluniau i ddathlu Jiwbilî Platinwm Brenhines Loegr eleni.

Mae Palas Buckingham bellach wedi datgelu’r cynlluniau’n llawn, gan gynnwys agor holl eiddo’r Frenhines i’r cyhoedd, a pherfformiad y tu allan i’r palas.

Ond ar sail cyngor meddygol, fydd hi ddim yn cymryd rhan yn yr holl ddigwyddiadau, a bydd aelodau’r teulu brenhinol yn mynd i rai o’r digwyddiadau ar ei rhan.

Mae’r dathliadau’n dechrau heddiw, wrth i Fortnum & Mason lansio Cystadleuaeth Pwdin Platinwm i ddod o hyd i bwdin i ddathlu’r jiwbilî sy’n nodi 70 mlynedd ers iddi ddod yn Frenhines, ac ymhlith y beirniaid mae’r Fonesig Mary Berry.

Rhwng Mai 12 a 15, bydd mwy na 500 o geffylau a 1,000 o berfformwyr yn cymryd rhan mewn sioe yng nghastell Windsor yn olrhain hanes o Elizabeth I hyd at heddiw.

Bydd rhagor o seremonïau ym mis Mehefin, gan ddechrau ar Fehefin 2, sef diwrnod cynta’r Ŵyl Banc, gyda Pharêd Pen-blwydd.

Ar y diwrnod hwnnw, bydd y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a thiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig yn dod ynghyd ar gyfer dathliad ar y cyd o amgylch y byd.

Ar Fehefin 3, bydd Gwasanaeth o Ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol St. Paul cyn bod Parti Platinwm yn y Palas ar Fehefin 4, gyda’r perfformwyr eto i’w cadarnhau, ond mae disgwyl i rai o sêr cerddorol mwya’r byd berfformio.

Bydd y dathliadau’n gorffen gyda Chinio Mawr y Jiwbilî ar Fehefin 5, gyda phobol ar draws y Deyrnas Unedig wedi’u gwahodd i gynnal eu digwyddiadau eu hunain.

Yn ystod y penwythnos hwnnw, bydd Sandringham a Balmoral ar agor i’r cyhoedd.

Mae plant ysgol wedi cael eu gwahodd i greu darluniau o’u gobeithion ar gyfer y blaned yn y 70 mlynedd nesaf, a bydd rhai o’u darluniau’n cael eu gosod ar faneri, tra bydd arddangosfeydd yn nodi hanes y Frenhines i’w gweld ym mis Gorffennaf.