Bydd nifer o sefydliadau yn cwrdd yr wythnos nesaf i drafod rôl militariaeth yng Nghymru.

Bydd gweminar, sydd wedi’i threfnu gan Gymdeithas y Cymod, yn cyfarfod ar ddydd Iau, Ionawr 20 er mwyn dechrau’r daith tuag at greu Cymru ddi-drais.

Bydd sefydliadau megis CND Cymru, Academi Heddwch Cymru a’r Pleace Pledge Union yn cyfrannu at y drafodaeth am berthynas y wlad â militariaeth.

Elfen gref o’r digwyddiad fydd trafod rôl militariaeth a’i pherthynas gyda’r argyfwng newid hinsawdd.

Fe fydd y gweminar yn sylfaen ar gyfer y broses o gyd-weithio gyda mudiadau ac unigolion i greu neges gyhoeddus yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu Cymru ddi-drais, medd Cymdeithas y Cymod.

Bydd y gweminar yn dechrau gyda chyflwyniad gan Robat Idris, sy’n aelod o Gymdeithas y Cymod, ar filitariaeth, ac mae’n dweud bod militariaeth yn “bolisi hollol ddinistriol”.

“Mae Cymru, drwy gefnogi sefydliadau milwrol a swyddi yn y diwydiant arfau, yn euog o’r drosedd o baratoi lladd ar raddfa erchyll,” meddai.

“Mae’n bryd codi llais yn ei erbyn.”

‘Cenedl flaengar’

Mae Cymdeithas y Cymod, drwy’r gweminar, yn awyddus i “glywed lleisiau ar draws cymunedau Cymru”, yn ôl Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod.

“Mae militariaeth yn symbol dyddiol o drais yng Nghymru o’i ddylanwad yn ein hysgolion i’r defnydd rheolaidd gan y fyddin o’n tir ar gyfer hyfforddiant,” meddai.

“Gwelwyd bod cyfle yn y flwyddyn newydd i ddechrau trafodaeth ar hyn, a sut y dyhëwn am Gymru ddi-drais er lles cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym yn agored i glywed lleisiau ar draws cymunedau Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn clywed barn a phrofiadau pobol o bob cefndir.

“Rwyf yn argyhoeddedig y gall Cymru fod yn genedl flaengar, gan greu cenedl heddychlon na fydd yn annog trais a gormes.”

  • Bydd Gweminar: Militariaeth yng Nghymru yn cael ei chynnal am 7:30yh ar 20 Ionawr, ac mae posib cofrestru ar Eventbrite.