Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi Cynllun Mynediad at Feddygon Teulu, gyda’r bwriad o ryddhau pwysau ar wasanaeth iechyd Cymru.

Yn ôl y Ceidwadwyr, byddai gwneud hi’n haws i fwy o bobol weld eu meddyg teulu yn ffordd o fynd i’r afael ag amseroedd aros adrannau brys, ôl-groniad mewn cleifion sy’n aros am driniaethau, ac amseroedd ymateb ambiwlansys.

Mae’r cynllun, sydd wedi cael ei amlinellu gan lefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, yn cynnwys cyflwyno mwy o apwyntiadau wyneb yn wyneb â meddygon teulu, a gosod mesurau i warchod staff meddygfeydd rhan camdriniaeth.

Dydi trefn meddygfeydd “ddim yn gweithio ar gyfer cleifion” weithiau, meddai Russell George, wrth fanylu ar y cynllun.

Y cynllun

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am gynllun i wella mynediad at apwyntiadau, gyda chyllid o £30 miliwn, fel bod cleifion yn gallu gweld meddygon yn y ffordd orau iddyn nhw, lle bynnag maen nhw’n byw.

Byddai’r arian yn golygu dros £75,000 i bob un feddygfa yng Nghymru, ar gyfartaledd, ond byddai gofyn targedu’r arian at feddygfeydd sy’n ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd, meddai’r Ceidwadwyr.

Ar hyn o bryd, dydi awdurdodau iechyd Cymru ddim yn casglu gwybodaeth ganolog am y ffordd mae apwyntiadau’n cael eu cynnal, boed wyneb yn wyneb, ar-lein, neu dros y ffôn.

Mae’r Ceidwadwyr yn galw am wella atebolrwydd drwy wneud i fyrddau iechyd gasglu gwybodaeth am y ffordd mae apwyntiadau’n cael eu cynnal.

Mae’r galwadau hefyd yn cynnwys caniatáu i arbenigwyr eraill gynnig tystiolaeth feddygol a thystysgrifau, megis ar gyfer gwiriadau’r DVLA, er mwyn rhyddhau peth o amser meddygon teulu.

Ynghyd â hynny, mae’r Cynllun yn cynnwys galwadau i archwilio sut gall fferyllfeydd cymunedol chwarae rôl fwy wrth gyflenwi meddyginiaethau.

Bydd fferyllfeydd cymunedol Cymru yn gallu cynnig ystod ehangach o wasanaethau o fis Ebrill, gan gynnwys rhoi triniaethau ar gyfer mân anhwylderau, brechiadau ffliw, a rhai dulliau o atal cenhedlu.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig am weld systemau ffôn meddygfeydd yn cael eu moderneiddio hefyd, gan “nad ydyn nhw’n gweithio ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion”.

“Diwygio meddygfeydd teulu”

Dywedodd Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, y bydd eu cynlluniau’n gwneud hi’n “haws” i gleifion, meddygon, ac ysbytai.

“Mae meddygon teulu’n gwneud gwaith medrus dros oriau hir dan amgylchiadau anodd, sy’n aml yn unig, ac maen nhw’n haeddu cael eu canmol, nid eu diawlio,” meddai Russell George.

“Fodd bynnag, ni allwn ni anwybyddu’r ffaith nad yw trefn meddygfeydd yn gweithio, weithiau, i’r cleifion y maen nhw’n cael eu talu i’w gwasanaethu.

“Rydyn ni wedi gweld y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru’n dymchwel yn sgil esgeulustod a chamreoli’r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd, a lle gweinidogion yw cydnabod materion mewn lleoliadau gofal sylfaenol fel meddygfeydd teulu sy’n gallu delio â phobol mewn ffordd sy’n canolbwyntio mwy ar gleifion.

“Rydyn ni’n gwneud cynigion cryf i ddiwygio meddygfeydd teulu, diagnosis canser, a lleihau ôl-groniad.

“Bydd y rhain, yn ogystal ag ymgyrch i annog pobol i ddefnyddio unedau mân anafiadau yn hytrach nag adrannau brys, o fudd enfawr i’r Gwasanaeth Iechyd, lle mae ysbryd yn isel ac mae’r rheolaeth yn wael.”

Ychwanegodd bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig newydd gyhoeddi’r setliad ariannol mwyaf erioed i’r llywodraethau datganoledig, “felly does dim esgus i weinidogion Llafur ym Mae Caerdydd – mae’r arian yno”.

“Bydd cynigion y Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud gofal iechyd yn haws a chyflymach i gleifion, meddygon teulu, ac ysbytai,” meddai.

“Maen nhw’n cyflwyno effeithlonrwydd, moderneiddio, a gwelliannau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi cael ei drin mor wael gan Lafur.

“Maen nhw’n golygu adeiladu’n ôl yn gryfach wedi’r pandemig, a chydraddoli gwasanaethau dros Gymru.”

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi galw am ganolfannau diagnostig i ddarganfod canser yn gynnar, a hybiau llawdriniaethau rhanbarthol.

“Mwy hygyrch”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi adeiladu ar y berthynas adeiladol gyda phartneriaid meddygon teulu a hoffem ddiolch iddynt am eu cefnogaeth gyda’r ymgyrch brechu atgyfnerthu, yn ogystal â chadw practisau ar agor a gweithio i ddiwallu anghenion cleifion, tra’n derbyn mwy o apwyntiadau nag erioed.

“Rydym wedi ymdrechu i wneud meddygon teulu yn fwy hygyrch yn ystod y pandemig, boed hynny wyneb-yn-wyneb neu ar-lein. Ers y pandemig, mae mwy na 15,000 o ymgynghoriadau fideo meddygon teulu wedi’u cynnal ac rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio technoleg i wella mynediad cleifion i feddygon teulu.

“Drwy’r Ymrwymiad Mynediad, o 1 Ebrill ymlaen bydd anghenion cleifion yn cael eu trin ar y pwynt cyswllt cyntaf – boed a yw hynny’n golygu bod ganddynt apwyntiad ar gyfer y diwrnod hwnnw, am ddyddiad yn y dyfodol neu eu bod yn cael eu cyfeirio at wasanaeth priodol arall. Gwneir hyn heb fod angen i gleifion alw’n ôl dro ar ôl tro, sy’n hollbwysig.

“Rydym wedi gweithio i gynyddu lleoedd hyfforddi i feddygon teulu dros y blynyddoedd diwethaf, wedi darparu cymhellion ariannol i ddenu meddygon teulu dan hyfforddiant i gynlluniau hyfforddi arbenigol, ac rydym wedi ymrwymo i gadw ein gweithlu presennol.”