Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod eu penderfyniad i ddileu profion Covid rhad ac am ddim am gael effaith ar yr arian sy’n dod i Gymru er mwyn parhau â’r cynllun.

Fydd profion llif unffordd ddim ar gael yn rhad ac am ddim ar ôl dydd Iau (Mawrth 31), a dydd Mercher yw’r diwrnod olaf i bobol archebu prawf PCR os oes ganddyn nhw symptomau.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o ddileu mynediad i’r offer sydd eu hangen ar bobol i warchod eu hunain ac eraill, a hynny yng nghanol ton arall o’r feirws.

‘Profion rhad ac am ddim yn hanfodol’

Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae profion rhad ac am ddim “yn rhan hanfodol o sicrhau y gallwn ni oll aros yn ddiogel ac y gallwn ni ganfod ein ffordd allan o’r pandemig”.

“Dyma enghraifft arall o ba mor ddiofal yw’r Llywodraeth Geidwadol hon wrth wneud penderfyniadau sydd â chanlyniadau i weithwyr, teuluoedd a phenderfyniadau yng Nghymru,” meddai.

“Drwy ddileu profion am ddim, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ychwanegu at y pwysau ariannol cynyddol ar deuluoedd sydd â rhai mewn gofal, y bydd angen iddyn nhw gael profion bob tro maen nhw’n ymweld ag anwyliaid.

“Dylai’r Ceidwadwyr o leiaf fod yn cyflwyno rheoliadau ar brisiau profion, gan atal cwmnïau rhag ecsbloetio’r sefyllfa.

“Yr wythnos ddiwethaf, fe welson ni Boots, y gadwyn fwyaf o fferyllfeydd yn y Deyrnas Unedig, yn cyhoeddi y byddan nhw’n dechrau gwerthu profion llif unffordd am gymaint â £5.99 cyn i brofion am ddim gael eu dileu ym mis Ebrill.

“Byddai hynny’n golygu y byddai teulu â dau o blant oed ysgol yn wynebu costau o £633 y flwyddyn, o gymryd bod pob plentyn yn cael prawf ddwywaith yr wythnos.

“Tra bod teuluoedd yn mynd i’r afael â chanlyniadau’r Ceidwadwyr, byddan nhw wedi claddu eu pennau yn y tywod, yn hollol anwybodus ynghylch bywydau pobol gyffredin.

“Dw i’n falch o weld y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau â’r gefnogaeth o £500 ar gyfer hunanynysu tan fis Gorffennaf.”