Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi dangos ei chefnogaeth i ymgyrch sy’n galw am ymestyn y rhaglen i gartrefu ffoaduriaid o Wcráin i helpu ffoaduriaid o Affganistan.
Hyd yn hyn, mae dros 10,000 o bobol ledled Cymru wedi dangos parodrwydd i agor eu cartrefi a chynnig noddfa i’r rhai sy’n ffoi o Wcráin.
Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r lefel hon o haelioni yn “gyfle enfawr” o ran creu polisi ffoaduriaid mwy croesawgar ar gyfer holl ffoaduriaid y dyfodol, yn ogystal ag i helpu pobol Wcráin.
Mae grŵp dan arweiniad More in Common a British Future wedi ysgrifennu at Michael Gove, Ysgrifennydd Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau San Steffan, yn galw arno i sefydlu gweithlu er mwyn ymestyn y rhaglen Cartrefi i Wcráin.
‘Tanseilio hawliau dynol’
Yn ôl yr ymgyrchwyr, mae rhai ffoaduriaid a ddaeth o Affganistan pan wnaeth y Taliban gipio grym y llynedd yn dal i orfod aros mewn gwestai.
“Mae’n gwbl siomedig nad oes rhaglen o integreiddio pobol i mewn i’n cymunedau wedi digwydd,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360, gan gyfeirio at y ffoaduriaid o Affganistan.
“Fe welson ni enghraifft eithafol o hyn gyda barics Penalun yn Sir Benfro, oedd yn tanseilio hawliau dynol ffoaduriaid, yn ogystal â thanseilio uchelgais Cymru o ddod yn Genedl Noddfa.
“Mae Cymru wedi dangos yn y gorffennol y gallwn gynnig croeso i ffoaduriaid o Affganistan.
“Dim ond gydag ymgysylltiad llawn cynghorau, Llywodraeth Cymru ac elusennau fel yr Urdd y bu hyn yn bosibl.
“Rhaid i lywodraeth San Steffan efelychu cynlluniau croesawu llawn fel yr hyn gyflwynwyd gan yr Urdd.”
Mae rhaglen Cartrefi i Affganiaid yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wahodd pobol oedd wedi cynnig i agor eu drysau i ffoaduriaid o Wcráin ond fydd heb gael eu paru â theulu o’r wlad honno i gynnig llety i ffoaduriaid o Affganistan.
Pe bai rhaglen Cartrefi i Affganiaid yn dod i rym, dylai llywodraethau Cymru a’r Alban gael gwahoddiad i ddod yn uwch-noddwyr fel sydd wedi digwydd â’r rhaglen Cartrefi i Wcráin, meddai.
Dylai awdurdodau lleol gael help i addasu cynlluniau uwch-noddi Cymru a’r Alban fel bod trefi, ardaloedd neu awdurdodau lleol yn gallu darparu cartrefi i grwpiau o 5 i 10 teulu o ffoaduriaid o Affganistan hefyd, yn ôl yr ymgyrchwyr.
‘Ffurfioli creulondeb’
Mae’n rhaid inni ail-ddychmygu ein hymagwedd gyfan, a chreu system lloches dosturiol newydd sy’n cefnogi pawb sydd angen ein cymorth, yn ôl Liz Saville Roberts.
“Rhaid i Lywodraeth San Steffan roi diwedd ar eu Mesur Ffiniau creulon,” meddai.
“Nid yn unig y mae’r mesur yn rhwygo ymrwymiadau rhyngwladol y Deyrnas Gyfunol dan y Confensiwn Ffoaduriaid, ac y mae hefyd yn ffurfioli creulondeb gan y wladwriaeth yn erbyn pobol fregus.
“Agwedd Priti Patel yw gweld ceiswyr lloches fel anghyfleuster y dylid eu gwthio rhag cyrraedd yma’n ddiogel yn y lle cyntaf, ac i guddio’r sawl sydd yn cyrraedd ymaith oddi wrth weddill cymdeithas – mewn gwestai neu mewn baracs anaddas.
“Trwy drin ceiswyr lloches fel troseddwyr ddylai gael eu cartrefu mewn llety anaddas yn hytrach na phobol y dylid eu helpu i chwarae rhan o’n cymunedau, mae’r Ysgrifennydd Cartref yn tanseilio uchelgais Cymru o ddod yn Genedl Noddfa.
“Mae’n bryd i’r Ysgrifennydd Cartref ddarparu atebion dyngarol er mwyn croesawu pobl sy’n ceisio lloches.”
Cartref i Wcráin – “Cenedl Noddfa go iawn”
Wrth roi diweddariad ar raglen Cartrefi i Wcráin heddiw, dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, fod Llywodraeth Cymru bellach yn noddi pobol o Wcráin yn uniongyrchol, sy’n golygu bod modd iddyn nhw aros yn un o’r Canolfannau Croeso sydd wedi cael eu sefydlu ac y gallan nhw gael cymorth strwythuredig a chwblhau ceisiadau am fisas yno.
“Rydyn ni wedi gweld ymateb anhygoel gan bobol Cymru wrth iddyn nhw gofrestru yn eu miloedd i gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn gallu noddi pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel ac agor eu cartrefi iddyn nhw,” meddai Jane Hutt.
“Dyma Gymru yn gweithredu fel Cenedl Noddfa go iawn.
“Mae’r datganiadau o ddiddordeb hynny yn brysur yn troi’n geisiadau am fisâu sydd wedi’u cwblhau ar sail y cynigion hael o lety a ddaeth i law gan bobl yng Nghymru drwy’r cynllun Cartrefi i Wcráin.
“Gwnaethon ni lansio llinell gymorth benodol ddoe er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad i bobol sy’n dod i Gymru o Wcráin ac i bobl sy’n gweithredu fel noddwyr.
“Mae croeso i bobol gysylltu i ddysgu mwy am beth mae bod yn noddwr yn ei olygu, a gall pobol sydd am wneud cais gael gwybodaeth am ein cynllun noddi.”