Mae elusen Alcohol Change UK yn rhybuddio nad yw gwerthwyr yn gwneud digon i sicrhau na all plant gael gafael ar alcohol ar y we.

Yn ôl ymchwil newydd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 30), mae yna wendidau mawr wrth wirio oedran pobol sy’n prynu alcohol ar y we ac wrth wirio oedran pobol wrth ddosbarthu alcohol i’w cartrefi.

Mae adroddiad ar y mater yn galw ar werthwyr i gyflwyno gwelliannau brys i warchod plant.

Aeth ymchwilwyr ati i brynu alcohol ar-lein yng Nghaerdydd, a chafodd alcohol ei roi i bobol 18 a 19 oed o fewn dwy awr, heb ofyn am dystiolaeth fod y prynwyr yn ddigon hen, sydd yn groes i bolisïau gwerthwyr.

Mewn cyfweliadau, fe ddatgelodd gyrwyr eu bod nhw wedi drysu ynghylch y polisïau ar wirio oedran cwsmeriaid, ac nad oedden nhw wedi cael digon o hyfforddiant ynghylch gwirio oedran cwsmeriaid ar stepen y drws.

Roedd ganddyn nhw bryderon tebyg am sut i fynd i’r afael â chwsmeriaid meddw.

Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad bod gwerthwyr alcohol yn methu o ran eu dyletswydd i sicrhau nad yw alcohol yn cael ei werthu i blant, neu i oedolion meddw, ar stepen y draws, a bod angen gwelliannau brys.

Roedd ymchwil blaenorol gan Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam a gafodd ei gomisiynu gan Alcohol Change UK yn edrych ar reoliadau gwirio oedran, ac fe ddaeth i’r casgliad fod y sefyllfa’n aml yn ddibynnol ar wiriadau ‘gonest’, sef gofyn i’r cwsmer a ydyn nhw dros 18 oed.

Doedd dim digon o wiriadau oedran wrth ddosbarthu alcohol chwaith, er bod nifer o werthwyr yn mynnu eu bod nhw’n gweithredu polisi o herio unrhyw un sy’n edrych yn iau na 25 oed, gan ofyn am dystiolaeth ffotograffig.

Gwelliannau

Mae Alcohol Change UK yn galw am gyfres o welliannau allweddol er mwyn gwella polisïau ac arfer dda o ran gwerthu alcohol ar-lein, gan gynnwys:

  • cyflwyno system gadarn o hyfforddiant a chefnogaeth gan werthwyr i alluogi gyrwyr sy’n dosbarthu alcohol i wrthod alcohol i unrhyw un dan oedran neu sy’n ymddangos yn feddw
  • cyrchoedd prynu gan yr heddlu a swyddogion safonau masnachu i wirio bod gwerthwyr yn cadw at y gyfraith ac nad ydyn nhw’n gwerthu alcohol i blant, gan roi ystyriaeth hefyd i sut i brofi a yw alcohol yn cael ei ddosbarthu i bobol feddw
  • ymrwymo i ragor o ymchwil i sut ac i ba raddau mae plant yn cael gafael ar alcohol ar-lein ac wedi’u dosbarthu i’r cartref
  • adolygu deddfwriaeth ar drwyddedu i sicrhau bod digon o eglurder ynghylch eu rolau a’u dyletswyddau wrth werthu alcohol ar-lein a’i ddosbarthu i gartrefi.

Yn ôl Andrew Misell, cyfarwyddwr Cymru gydag Alcohol Change UK, “dylai’r ymchwil yma fod yn destun pryder i ni i gyd”.

“Mae gwerthwyr yn gwybod yn iawn am eu cyfrifoldebau o ran sicrhau nad yw pobol dan 18 oed yn gallu cael gafael ar alcohol drwy eu gwefannau neu’u ‘apps’ nhw,” meddai.

“Ond mae ein hymchwil ni wedi dangos bod dulliau profi oedran ar-lein yn weddol ddi-werth o ran cadw plant rhag archebu alcohol ar-lein.

“At hynny, mae archebion yn aml yn cael eu pasio i gwsmeriaid ar garreg y drws heb ofyn am brawf o’u hoed.

“Mae’n eglur fod angen i werthwyr wneud yn well.”

‘Datguddio problemau sylweddol’

“Gan mai carreg y drws yw’r unig bwynt yn ystod y broses o brynu alcohol ar-lein lle mae’r prynwr a’r gwerthwr, neu’r dosbarthwr, yn cwrdd wyneb-yn-wyneb, mae’n rhaid gofyn pam mae oedran y cwsmer yn cael ei gwirio mor anaml wrth ddod â diodydd alcoholaidd i’r tŷ,” meddai Mark Leyshon, awdur yr adroddiad ac Uwch-Reolwr Polisi ac Ymchwil Alcohol Change UK.

“Yn aml roedd gyrwyr dosbarthu yn ansicr beth ddylen nhw ei wneud i ddilysu oedran cwsmer, ac yn poeni am beth i’w wneud os oedd y cwsmer yn feddw wrth dderbyn yr archeb.

“Sonion nhw hefyd am ddiffyg hyfforddiant.

“Roedden nhw’n tynnu sylw at y tyndra rhwng yr amser sydd ei angen i wirio oedran yn iawn a’r angen iddyn nhw symud ymlaen at eu tasg nesaf.

“Roedd gweithio ar eu pennau eu hunain yn her hefyd, a’r gyrwyr yn poeni am sut fyddai cwsmeriaid yn ymateb tasen nhw’n gwrthod rhoi archeb iddyn nhw.

“Cyfrifoldeb y gwerthwyr yw hyn i gyd yn y pen draw.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, gwelson ni welliannau mawr o ran cadw pobol dan oed rhag prynu alcohol mewn siopau ar lawr gwlad.

“Ond o ran gwerthu alcohol ar-lein a’i ddosbarthu i’r tŷ, mae ein hymchwil ni wedi datguddio problemau sylweddol.”