Mae BT wedi cadarnhau y byddan nhw’n gohirio cyn symud pob cwsmer sydd eisiau symud i dechnoleg newydd, drosodd i Digital Voice am y tro.
Roedd BT wedi gwneud y penderfyniad yn wreiddiol i roi’r gorau i’w rhwydwaith teleffôn gopr erbyn mis Rhagfyr 2025. Roedd hyn yn golygu y byddai pob galwad ffôn yn cyrraedd dros dechnoleg ddigidol o’r enw VoIP (Protocol Llais dros y Rhyngrwyd), gan ddefnyddio cysylltedd band llydan.
Fe wnaeth nifer o bobol sy’n byw yng nghefn gwlad yn fy etholaeth heb signal ffôn symudol godi eu pryderon gyda fi o ran y braw o beidio â bod â ffordd o gyfathrebu â’r byd tu allan pe baen nhw’n colli eu cysylltedd band llydan.
Fe ddaeth yr anghyfleustra enfawr a gafodd ei achosi gan stormydd Arwen ac Eunice yn ddiweddar â mwy o ffocws ar y pryderon hyn pan oedd angen i bobol, gan gynnwys rhai yn fy etholaeth i yng Ngheredigion, allu cysylltu ag anwyliaid yn ystod toriadau mewn cyflenwadau pŵer. Tra bod nifer o linellau wedi’u torri yn ystod y stormydd hynny, gan gynnwys llinellau ffôn hŷn yn ogystal â llinellau pŵer, fyddai gwneud galwadau ddim wedi bod yn bosib i rai cwsmeriaid gyda chysylltedd band llydan yn unig.
Fe wnes i godi’r pryderon hyn gyda BT, DCMS ac OFCOM ar ran fy etholwyr. Dw i’n croesawu penderfyniad BT i ohirio eu rhaglen i symud drosodd i Digital Voice yn fawr iawn. Dw i’n gwybod fod nifer o’m hetholwyr yn poeni’n fawr am y posibilrwydd o golli eu llinellau daearol copr, ac yn ddiolchgar iawn i BT am wrando ar bryderon eu cwsmeriaid ac am weithredu mor gyflym.
Mae gwir angen i ni wella ein hisadeiledd cysylltedd yng Ngheredigion a sicrhau bod gan eiddo yng nghefn gwlad, yn enwedig, fwy opsiynau gwydn wrth gefn os yw’r rhaglen yma am ailddechrau yn y dyfodol. Mae BT wedi cadarnhau na fyddan nhw ond yn ailddechrau’r rhaglen i symud i Digital Voice pan fydd ganddyn nhw gynnyrch allweddol yn ei le i sicrhau mwy o gysylltedd gwydn i’w cwsmeriaid pan fo’i angen arnyn nhw.