Palestiniad oedd y dyn oedd wedi saethu pobol yn farw oddi ar feic modur mewn pentref ar y Lan Orllewinol, yn ôl yr heddlu yn Israel.
Diaa Hamarsheh, 27, oedd y saethwr ym mhentref Yabad, yn ôl yr heddlu.
Cafodd y dyn ei ladd gan yr heddlu yn dilyn y digwyddiad, ac fe aeth y lluoedd arfod i gynnal cyrch ar ei gartref, gan arestio sawl aelod o’i deulu fel rhan o’r ymchwiliad.
Dyma’r trydydd ymosodiad o’r fath ar drothwy Ramadan, y mis sanctaidd i Fwslimiaid.
Cafodd y ddau ymosodiad blaenorol eu hysbrydoli gan Daesh, neu’r Wladwriaeth Islamaidd, ac roedd pryderon y bydden nhw’n arwain at ragor o ymosodiadau tebyg.
Mae Naftali Bennett, prif weinidog Israel, wedi addo sefyll yn gadarn yn erbyn unrhyw ymosodiadau, ac fe gynhaliodd e gyfarfod brys gydag uwch-swyddogion diogelwch yn dilyn y digwyddiad, ac mae disgwyl i’r Cabinet Diogelwch gyfarfod hefyd.
Dydy’r awdurdodau ddim eto’n dweud ai rhan o rwydwaith oedd yr ymosodwr neu a oedd e’n gweithredu ar ei ben ei hun, ond mae disgwyl i’r awdurdodau warchod yr ardal ar y lefel rhybudd uchaf posib.
Cafodd pump o bobol eu lladd yn yr ymosodiad diweddaraf, ac un ohonyn nhw’n blismon, gyda dau arall yn dod o dramor.
Mae Mahmoud Abbas, Arlywydd Palesteina, hefyd wedi beirniadu’r ymosodiad, gan ddweud y bydd unrhyw ymosodiad yn arwain at fwy o dyndra gydag Israel.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb, ond mae Hamas wedi canmol y weithred.