Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn canmoliaeth am ei ddewrder ar ôl cyhoeddi ei fod yn draws.

Mewn datganiad, dywedodd Jamie Wallis ei fod e wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd, a’i fod e wedi bod yn teimlo felly ers oedd e’n blentyn ifanc.

“Dw i’n draws. Neu i fod yn fwy cywir, dw i eisiau bod,” medd Jamie Wallis, a ddaeth yn Aelod Seneddol yn 2019.

“Dw i wedi cael diagnosis o ddysfforia rhywedd a dw i wedi teimlo fel hyn ers oeddwn i’n blentyn ifanc iawn.

“Doedd gen i ddim bwriad o rannu hyd gyda chi byth. Roeddwn i wastad wedi dychmygu y byddwn i’n gadael gwleidyddiaeth ymhell cyn fy mod i’n dweud hyn yn uchel.”

Blacmêl

Cafodd Jamie Wallis ei flacmelio yn 2020, a dywedodd rhywun wrth ei deulu, ond nawr mae e wedi penderfynu dweud wrth bawb.

Ar ôl cael ei flacmelio, cafodd y diffynnydd ei ddedfrydu i ddwy flynedd a naw mis yn y carchar, ac roedd Jamie Wallis yn credu y byddai’n gallu symud ymlaen.

“Ychydig fisoedd yn ôl, ym mis Medi, fe wnes i ‘fynd efo’ rhywun y gwnes i gyfarfod ar-lein a phan benderfynais i ddweud ‘na’ ar y sail ei fod yn gwrthod gwisgo condom, fe wnaeth e fy nhreisio,” meddai.

“Dw i heb fod yn fi’n hun ers y digwyddiad hwn a dw i ddim yn meddwl y gwna i fyth wella. Dyw e ddim yn rhywbeth rydych chi yn ei anghofio byth, a dyw e ddim yn rhywbeth rydych chi fyth yn symud ymlaen oddi wrtho.

“Ers hynny, mae pethau wedi dechrau dirywio. Dw i ddim yn iawn.”

Gwrthdrawiad a PTSD

“Pan gefais i wrthdrawiad car ar Dachwedd 28, fe wnes i ddianc. Fe wnes i hynny oherwydd roedd gen i ofn ofnadwy,” meddai wedyn.

“Mae gen i PTSD, a does gen i wirioneddol ddim syniad be oeddwn i’n ei wneud oni bai fy mod i wedi fy llethu gan ofn llethol.

“Dw i’n sori ei bod hi’n ymddangos fy mod i wedi ‘rhedeg i ffwrdd’ ond nid felly y digwyddodd pethau ar y pryd.”

‘Eithriadol o ddewr’

Mae Jamie Wallis wedi derbyn cefnogaeth gan aelodau seneddol ac aelodau o’r senedd o bob plaid wleidyddol.

“Eithriadol o ddewr a gonest, Jamie. Bydd eich dewrder yn helpu cymaint o bobol a dw i’n gobeithio y bydd yn dangos faint o gefnogaeth sydd yno,” meddai Chris Elmore, Aelod Seneddol Llafur Ogwr.

“Solidariaeth a chryfder i chi.”

“Annwyl Jamie, dw i’n dymuno’r gorau un i chi,” meddai Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.

“Bydd cydweithwyr dros y Tŷ yn parchu eich gonestrwydd agored a’r daith rydych chi arni. Cwtsh.”

Wrth ymateb, dywedodd Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn y San Steffan, fod hon yn “neges eithriadol o ddewr i’w gyrru allan”.

“Beth bynnag fo ein gwleidyddiaeth, mae bywyd cyhoeddus yn ddi-dor ac yn aml yn ddidrugaredd,” meddai.

“Parch enfawr am eich dewrder personol.”

“Mae ei wleidyddiaeth yn wrthun i mi, ond parch mawr i Jamie am fod mor ddewr a dangos arweiniad,” meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.

“Byddwch garedig, bawb.”

“Parch enfawr i Jamie Wallis am siarad eu gwirionedd,” meddai Tom Giffard, Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros ranbarth Gorllewin De Cymru.

“Mae e’n beth anghredadwy o ddewr i’w wneud.”