Rhys Howard Hughes yw Dirprwy Brif Weithredwr newydd Cyngor Sir Ynys Môn.

Daeth cadarnhad o’i benodiad neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 29), ac fe fydd yn gweithio ochr yn ochr â’r prif weithredwr Dylan J Williams.

Bydd yn arwain ymdrechion y Cyngor Sir i fod yn garbon niwtral erbyn 2030, yn darparu blaen gynllunio a chynllunio strategol cadarn drwy Gynllun y Cyngor newydd ar gyfer 2022-27, ac yn sicrhau gwelliant parhaus ar draws y sefydliad, meddai’r Cyngor.

Bydd cydweithio effeithiol a rhagweithiol â sefydliadau Llywodraethol, sefydliadau cyhoeddus, preifat a phartneriaid cymunedol hefyd yn flaenoriaeth iddyn nhw.

Ar hyn o bryd, mae Rhys Howard Hughes yn Gyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobol Ifanc yr Awdurdod, a bydd yn dechrau yn ei swydd newydd yn y dyfodol agos.

‘Braint’

“Dwi’n teimlo hi’n fraint o fod wedi cael gweithio â’r holl randdeiliaid yn fy rôl bresennol, dwi’n teimlo ein bod wedi symud ymlaen fel un,” meddai Rhys Howard Hughes.

“Mae hi’n fraint cael fy mhenodi’n Ddirprwy Brif Weithredwr heddiw.

“Edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos â’r Prif Weithredwr, cydweithwyr, Aelodau Etholedig a’r holl bartneriaid.

“Mae nifer o heriau a chyfleoedd pwysig i ddod a byddaf yn parhau i wneud fy ngorau ar gyfer pobol a chymunedau Ynys Môn.”

Yn y gorffennol, mae Rhys Howard Hughes wedi gweithio fel Arweinydd ar Arweinyddiaeth Strategol Genedlaethol o fewn y sector addysg, bu’n Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE sef y Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru; bu’n Bennaeth Ysgol Cae Top, Bangor, ac yn arolygydd gydag Estyn.

‘Cyfoeth o brofiad’

“Mae Rhys yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl bwysig hon o fewn Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor Sir ac edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos ag o,” meddai Dylan J Williams.

“Ein nod fydd parhau i sicrhau bod y Cyngor a’r Sir yn symud yn eu blaenau – gan ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i drigolion a’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer cymunedau lleol.”

Mae Rhys Howard Hughes, sy’n byw yn Llanfairpwll, yn siaradwr Cymraeg rhugl, ac yn briod a chanddo ddau o blant.