Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu £25m i gychwyn cynllun prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd Cymru.
Fe fydd yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn ceginau a neuaddau bwyta ysgolion fel rhan o’r cynllun.
Mae’r polisi yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a fydd yn ymestyn prydau ysgol am ddim i holl ddisgyblion cynradd Cymru dros y tair blynedd nesaf.
O fis Medi, bydd rhai o blant ieuengaf ysgolion cynradd yn dechrau cael prydau am ddim wrth i’r polisi gael ei gyflwyno’n raddol.
Gan weithio gydag ysgolion ac awdurdodau lleol, bydd Llywodraeth Cymru’n paratoi’r seilwaith ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd erbyn mis Medi 2024.
Mae cyllid refeniw o hyd at £200m wedi’i neilltuo i awdurdodau lleol gyflawni’r ymrwymiad.
‘Cefnogi teuluoedd’
“Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi ymrwymo ar y cyd i sicrhau na fydd un plentyn yng Nghymru yn llwgu, ac y bydd pob plentyn yn ein hysgolion cynradd yn cael pryd ysgol am ddim,” meddai Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
“Rydyn ni’n wynebu argyfwng costau byw na welwyd ei debyg. Rydyn ni’n gwybod bod plant iau yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol, a dyna pam mai ein dysgwyr ieuengaf fydd y cyntaf i elwa.
“Mae’r argyfwng costau byw yma yn cael ei deimlo gan deuluoedd ar draws Cymru – mae ymestyn cwmpas prydau ysgol am ddim yn un o nifer o fesurau rydyn ni’n eu cymryd i gefnogi teuluoedd drwy’r cyfnod anodd yma.”
‘Cydweithio cadarnhaol’
Mae hi’n glir bod angen cymaint o gefnogaeth ar deuluoedd gyda chostau byw ag sy’n bosibl, yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dechrau’r broses o roi polisi ar waith a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer ar hyd a lled y wlad,” meddai.
“Mae’n gam pwysig tuag at gyflawni un o’n prif addewidion yn y Cytundeb Cydweithio, ac yn enghraifft o sut mae cydweithio cadarnhaol yn gwneud gwahaniaeth i bobol ar lawr gwlad.
“Mae’r arian gyfalaf newydd hwn yn cefnogi cychwyn y broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Mae hefyd yn rhan o agenda ehangach i ddefnyddio’r grymoedd sydd gyda ni yng Nghymru i fynd i’r afael â thlodi plant, sy’n effeithio ar draean o’n plant.
“Bydd cael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig â chael cinio am ddim yn golygu bod plant yn cael pryd o fwyd iach yn ystod cam ffurfiannol yn eu datblygiad – all plant sydd eisiau bwyd ddim dysgu na chyflawni eu gwir botensial.
“Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gweithredu dros Gymru ac yn gwneud gwahaniaeth.”
Fel rhan o’u haddewidion cyn etholiadau lleol mis Mai, mae Plaid Cymru wedi addo y byddai awdurdodau lleol dan arweiniad eu plaid yn darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl uwchradd hefyd.