Mae rhybudd du bwrdd iechyd yng Ngwent yn dangos “sefyllfa druenus” y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ddatgan y rhybudd du neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 29) yn sgil “pwysau cyson a heb ei debyg” ar eu gwasanaethau brys.
Dywed y bwrdd iechyd fod eu hadran frys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân yn “eithriadol o brysur”, a bod y nifer uchaf erioed o bobol yn ymweld â’r adran.
Mae’r amseroedd aros mewn rhai achosion dros 14 awr, meddai’r bwrdd iechyd, ac maen nhw’n annog pobol i beidio ag ymweld ag Ysbyty Athrofaol y Faenor oni bai bod perygl i fywyd neu fod rhywun ag anaf difrifol.
‘Misoedd i baratoi’
Yn ôl Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r sefyllfa’n dangos pa mor “amharod yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i helpu pobol sydd ei angen fwyaf, gyda staff gweithgar yn gwneud popeth allan nhw yn cael eu gadael lawr dro ar ôl tro gan y Llywodraeth Lafur”.
“Rydyn ni’n gwybod fod Covid wedi cael effaith negyddol ar ddarpariaeth gofal iechyd, ond mae gweinidogion Llafur wedi cael misoedd i baratoi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer adfer wedi’r pandemig ond mae’n ymddangos eu bod nhw ar goll wrth weithredu,” meddai.
“Dyw hi ddim yn iawn bod pobol yn cael eu gadael mewn ystafelloedd adrannau brys mewn poen am oriau, dyddiau weithiau, pan mai eu trethi nhw sy’n cael eu defnyddio i ariannu’r gwasanaeth iechyd a thra gallan nhw fod yn colli allan ar waith pan fo costau byw, yn anffodus, ar gynnydd.”
‘Gofyn am gefnogaeth’
“Er gwaethaf ymdrechion i drio sefydlogi ein gwasanaethau, heddiw rydyn ni wedi gorfod datgan sefyllfa o ‘barhad busnes’,” meddai Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wrth gyhoeddi’r rhybudd du.
“Mae’r amser aros i weld meddyg, mewn rhai achosion, yn hirach na 14 awr mewn sefyllfaoedd lle nad yw cyflwr y claf yn un sy’n bygwth ei fywyd.
“Does gennym ni ond ychydig iawn o welyau ar gael dros ein hysbytai i dderbyn cleifion sydd angen cael eu derbyn.
“Rydyn ni’n gofyn am eich cefnogaeth ac i chi ond ymweld ag Ysbyty Athrofaol y Faenor os oes perygl i fywyd neu fod gennych chi anaf difrifol.”
Yn ôl y Bwrdd Iechyd, ddylai pobol ddim ymweld â’r adran frys oni bai bod ganddyn nhw gyflwr megis:
- anawsterau anadlu difrifol
- gwaedu neu boen difrifol
- poen yn y frest neu’n amau eu bod nhw wedi cael strôc
- anafiadau trawma difrifol, er enghraifft wedi damwain car
“Os oes gennych anaf llai difrifol, yna ewch i un o’n Hunedau Mân Anafiadau yng Nghasnewydd, y Fenni neu Ystrad Mynach,” meddai’r neges.
“Os oes gennych chi anwylyd yn yr ysbyty yr ystyrir ei fod yn ffit yn feddygol i gael ei ryddhau gartref, ystyriwch fynd â nhw adref a’i gofalu amdanynt. Os yw’ch anwylyd yn feddygol ffit i gael ei ryddhau gartref, yna nid ysbyty yw’r lle gorau iddynt- byddan nhw’n gwella’n well gartref.
“Rydym yn gofyn i deuluoedd helpu yn y modd hwn oherwydd mae’n well i’w hanwyliaid a byddwn yn rhyddhau gwelyau ysbyty i gleifion sâl y mae angen eu derbyn i’r ysbyty.”