Fe fydd y BBC yn dangos rhaglen drwy wledydd Prydain sy’n olrhain taith dyn o Fethesda a gafodd ei fabwysiadu wrth iddo geisio dod o hyd i’w deulu genedigol.

Bydd Searching for my Other Mam – Our Lives yn adrodd hanes Gerallt Wyn Jones, sy’n adnabyddus fel hyfforddwr cicfocsio Black Dragon ym Methesda, wrth iddo geisio darganfod mwy am ei gefndir.

Cafodd ei fabwysiadu o Gilgwri yn fabi bach gan bâr o ogledd Cymru, a’i fagu ym Methesda.

Mae’n dweud ei fod yn teimlo’n “fwy o Gymru na’r rhan fwyaf o bobol” am iddo fyw yng Nghymru drwy gydol ei oes ac am ei fod e’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Ond ac yntau’n ddyn du a chanddo ddau riant gwyn, mae’n dweud iddo wynebu anawsterau yn sgil lliw ei groen, a’i fod e’n teimlo ei fod e’n wahanol i bobol eraill yr ardal.

Doedd e ddim yn gwybod yn iawn pwy oedd e tan iddo dderbyn ei bapurau mabwysiadu pan oedd e’n 16 oed, ond roedd y rheiny hefyd yn trafod cywilydd ac embaras yn sgil lliw ei groen.

Bydd Searching for my Other Mam – Our Lives yn cael ei darlledu ar BBC 1 (nos Wener, Medi 2, 7.30yh) a BBC 1 Cymru am 8.30yh.