Bydd hanes bywyd Cranogwen ar daith o ddiwedd y mis hwn fel rhan o ymgyrch Monumental Welsh Women mewn partneriaeth â mudiad Cerflun Cymunedol Cranogwen.

Comisiynwyd Mewn Cymeriad gan Monumental Welsh Women i greu sioe un ddynes i deithio ar hyd a lled Cymru, er mwyn ysbrydoli’r gynulleidfa i barhau i adrodd a dathlu ei hanes unigryw.

Bydd Monumental Welsh Women hefyd yn dadorchuddio cerflun o Cranogwen ym mhentref Llangrannog yn 2023, a bydd cyfran o incwm tocynnau’r daith theatr yn mynd tuag at y cerflun.

Mi fydd taith theatr Cranogwen yn agor gyda pherfformiad yn Neuadd Pontgarreg ar nos Wener, Medi 30.

Pwy oedd Cranogwen?

Cafodd Cranogwen ei geni ym mhlwyf Llangrannog yn 1839, ond Sarah Jane Rees oedd ei henw go iawn.

Cymerodd Cranogwen lwybr cwbl wahanol i’r disgwyl fel merch yn yr oes honno.

Yn 26 oed, hi oedd y ferch gyntaf i ennill gwobr farddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei cherdd Y Fodrwy Briodas.

Daeth yn enwog nid yn unig yng Nghymru ond ym mhrifddinasoedd Lloegr ac America ond ar ôl yr holl deithio, roedd hi bob amser yn dychwelyd i’w milltir sgwâr.

Dathlu arwresau cudd Cymru

“Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi’r daith theatr hon am Cranogwen, ffordd amgen o ddathlu bywyd un o’r menywod ysbrydoledig rydym yn codi cerflun ar ei chyfer,” meddai Helen Molyneux o Monumental Welsh Women.

“Yn dilyn y daith theatr yr hydref hwn, byddwn yn dadorchuddio’r cerflun o Cranogwen yn ystod 2023.

“Dyma’r trydydd cerflun sydd wedi ei gomisiynu gan brosiect Monumental Welsh Women i ddathlu cyflawniadau arwresau cudd Cymru.

“Dyma’r menywod y mae eu cyfraniadau i fywyd a diwylliant Cymru wedi cael eu hanwybyddu i raddau helaeth oherwydd y cyfnod y cawsant eu geni ynddo.

“Y cerflun cyntaf oedd o brifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, yng Nghaerdydd, yr ail, o Elaine Morgan, y damcaniaethwr a’r dramodydd esblygiadol, yn Aberpennar a’r nesa’ fydd Cranogwen.”

Tîm benywaidd yn arwain

Bu Cranogwen yn annog talentau menywod eraill ar hyd ei hoes a thîm benywaidd o dan arweiniad Eleri Twynog sydd wedi mynd ati i greu’r ddrama.

“Cyn cychwyn ar y prosiect hwn, doedd gen i fawr o syniad am hanes Cranogwen, ac felly mae wedi bod yn bleser pur, yn enwedig fel Cardi fy hun, i ddod i adnabod y ferch anhygoel hon,” meddai Eleri Twynog o’r cwmni Mewn Cymeriad.

“Edrychwn ymlaen at rannu a dathlu ei hanes gyda chynulleidfaoedd dros Gymru gyfan.”

Ffion Dafis sydd wedi sgriptio’r ddrama, Janet Aethwy sy’n cyfarwyddo a Lynwen Haf Roberts fydd yn actio rhan Cranogwen.

Manylion y daith theatr

Medi 30, 7.30pm, Neuadd Pontgarreg

Hydref 4, 7.45pm, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Hydref 5, 7.45pm, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (perfformiad Saesneg / English performance)

Hydref  6, 7.30pm, Canolfan Gartholwg

Hydref 10, 7.30pm, Neuadd y Nant, Clydach

​Hydref 11, 7.30pm, Neuadd Llanofer, Caerdydd

Hydref 11, 7.30pm, Neuadd Llanofer, Caerdydd

Hydref 12, 7.30pm, Yr Egin, Caerfyrddin

Hydref 13, 7.30pm, Neuadd Llanover, Caerdydd (perfformiad Saesneg / English performance)

Hydref 14, 7.30pm, Castell Aberteifi

Hydref 19, 7.30pm, Theatr Twm o’r Nant, Dinbych

Hydref 20, 7.30pm, Plas Glyn y Weddw, Pwllheli

Datgelu lleoliad cerflun Cranogwen yn Llangrannog

Bydd y cerflun yn cael ei godi yng Ngardd Goffa’r pentref, ddim yn bell o’r fan lle cafodd hi ei chladdu

Comisiynu cerflunydd cofeb Cranogwen yn Llangrannog

Bydd y cerflun o’r arloeswraig yn cael ei godi fel rhan o ymgyrch Monumental Welsh Women

Anrhydeddu “eicon ffeministaidd a dramodydd hyfryd”

Mae cerflun o’r awdures Elaine Morgan wedi ei ddadorchuddio yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf

Dadorchuddio cerflun i anrhydeddu’r awdures Elaine Morgan

Y cerflun ohoni yn Aberpennar yn Rhondda Cynon Taf yw’r ail gerflun o fenyw go iawn i gael ei godi yng Nghymru

Cerflun i anrhydeddu Betty Campbell yn cael ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd

Betty Cambell oedd prifathrawes ddu gyntaf Cymru ac roedd yn ymgyrchydd hanes pobol ddu
Betty Campbell

Dadorchuddio cofeb i Betty Campbell, y ddynes ddu gyntaf i fod yn bennaeth ysgol yng Nghymru

Y cerflun yng nghanol Caerdydd fydd y cerflun cyntaf erioed o fenyw anffuglennol i gael ei godi mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored yng Nghymru