Mae lleoliad cerflun newydd o’r bardd a’r ymgyrchydd Sarah Jane Rees, neu Cranogwen, yn Llangrannog wedi cael ei ddatgelu yr wythnos hon.

Bydd y cerflun yn cael ei godi yng Ngerddi Coffa’r pentref, ar ôl i ymgyrch Monumental Welsh Women ei gomisiynu er mwyn cydnabod cyfraniad Cranogwen i ddiwylliant Cymru.

Roedd hi wedi arloesi ym meysydd newyddiaduraeth, barddoniaeth, mordwyo ac addysg, ac mae hi wedi cael ei disgrifio fel “menyw Gymreig fwyaf rhagorol y bedwaredd ganrif ar bymtheg”.

Ymddangosodd hi ar restr Merched Mawreddog y BBC yn 2019, ac ers hynny, mae’r ymgyrch i godi cerflun wedi dwyn ffrwyth.

Llangrannog

Mae Sebastian Boyesen, sydd wedi gweithio fel arlunydd a dylunydd ers dros 35 o flynyddoedd, eisoes wedi cael ei gomisiynu i greu’r cerflun yn y pentref lle mae’n byw.

‘Cofio, dathlu a dysgu’

Cafodd Cranogwen ei geni yn Llangrannog yn ne Ceredigion ym 1839, a derbyniodd ei haddysg gynradd yn y pentref, cyn sefydlu ysgol fordwyo yno ym 1859, a hithau ond yn 20 oed.

Er ei bod hi wedi treulio ei hoes yn teithio dros holl foroedd y byd, yn ardal Llangrannog mae ei hetifeddiaeth gryfaf.

Esboniodd Cynyr Ifan, cadeirydd Pwyllgor Lles Llangrannog, fod Prosiect Cerflun Cranogwen wedi “creu sylw yn lleol, cenedlaethol ac yn rhyngwladol”.

“Mae’r prosiect bellach wedi casglu momentwm syfrdanol sy’n dynodi ac yn cadarnhau’r angen am y gofeb ym man geni’r arwres hon er mwyn cofio, dathlu ei threftadaeth ac i ddysgu am hanes a chefndir Cranogwen,” meddai wrth wefan newyddion y Cambrian News.

“Mae yna dystiolaeth gref o gefnogaeth gymunedol a thu hwnt i’r cynllun hwn trwy bob rhodd ariannol, mewnbwn gan arbenigwyr cymunedol a sefydliadau academaidd.

Gardd Goffa Llangrannog. Llun: Google.

“Mae’r safle ar gyfer y gofeb sydd wedi ei nodi yn y cais cynllunio yn ddelfrydol ar gyfer y cynllun gan ei fod mewn ardal hamdden ddiogel, sy’n hygyrch i bob oed a gallu corfforol ac yn weledol i bobol leol ac ymwelwyr sy’n mynd heibio.

“Mae gardd gymunedol yma eisoes ar y tir sy’n eiddo i’r gymuned ac felly dyma fyddai’r safle amlwg i osod y gofeb.”

Dyma fydd y trydydd cerflun i gael ei gomisiynu gan Monumental Welsh Women i gofio ffigwr benywaidd hanesyddol, gyda’r cyntaf – cerflun o Betty Campbell – wedi ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Cafodd y cerflun hwnnw ei gomisiynu ar ôl i Betty Campbell ddod i’r brig mewn pleidlais gyhoeddus yn 2019 i ddewis pa fenyw ddylai gael ei chofio ar Sgwâr Canolog y brifddinas.

Bydd yr ail gerflun – o Elaine Morgan, y damcaniaethwr a dramodydd – yn cael ei ddadorchuddio yn Aberpennar ar ddydd Gwener, Mawrth 18.