Mae cerflun o’r awdures Elaine Morgan wedi ei ddadorchuddio yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf.

Roedd yn dod o deulu o lowyr a bu yn sgrifennu sgriptiau teledu, yn ddarlithydd, yn anthropolegydd ac yn ffeminist.

Dyma’r ail gerflun sy’n dathlu ‘Merched Mawreddog Cymru’ – fe gafodd y cyntaf, o brifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell, ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd y llynedd.