Mae’r darn papur wedi ei blygu’n hirsgwar main, taclus, ac wedi ei guddiad yn fy nyddiadur, yn cael ei wasgu rhwng y 23ain a’r 24ain o Fawrth 2020. Dydw i heb feiddio edrych arno ers i mi ei roi o yna. Dwi’n gwybod yn iawn be wnes i ’sgwennu.