Ddechrau’r wythnos hon roedd un o DJs gorau Radio Cymru yn cyflwyno ei sioe er ei fod o’n dioddef o covid.

Fydd y rhai sy’n gwrando yn gyson ar raglen Recordiau Rhys Mwyn yn synnu dim gydag ymroddiad y dyn.

Mae o’n cymryd ei gerddoriaeth, y gwaith o gyflwyno’i raglen, a’i gynulleidfa o ddifrif.

Ag yntau yn archeolegydd ac yn hanesydd brwd, mae o jesd y boi i roi hen recordiau yn eu cyd-destun, a chael gafael ar leisiau sydd ddim i’w clywed yn unman arall.