Bydd gŵyl arbennig yn cychwyn ddydd Llun nesaf, sy’n para mis a mwy ac yn cynnwys perfformiadau dramatig o’r Mabinogi a’r cyfle i ddysgu mwy am bêl-droedwyr a Barti Ddu…

Bydd hanes Betty Campbell, Hedd Wyn a Sant Cadfan yn cael eu cyflwyno i blant ledled Cymru dros yr hydref.

Gobaith Gŵyl Hanes Cymru i Blant ydy dathlu hanes y wlad, a’r holl blatfformau sydd wrthi’n rhannu’r straeon hynny, a’i rannu ag ysgolion.