Mae un o gyflwynwyr achlysurol Garddio a Mwy wrth ei fodd yn coginio â chynnyrch tymhorol o’r ardd.

Ac mae Rhys Rowlands hefyd yn hoffi teithio’r cyfandir yn seiclo rhai o elltydd serthaf Ewrop.

Ar randir ym Mhorthmadog, mi fydd yn tyfu tua 80% o’r llysiau a’r ffrwythau sydd eu hangen arno.

Yn gyn-brif gogydd bwyty’r Hebog ym Meddgelert, mae’r garddwr 26 oed yn dal i hoffi stwna yn y gegin.