Mae hi’n ddigon hawdd teithio o wlad i wlad yn Ewrop. Felly pam ddim rhwng Cymru a Lloegr? Colofnydd golwg360 sy’n edrych ar y sefyllfa wrth baratoi at ei wyliau yng ngwledydd Sgandinafia…


Dwi’n codi pac ac yn mynd i un o’m hoff rannau o’r byd – gwledydd Sgandinafia. Hedfan i Ddenmarc, ond aros dros y Bont (Øresund enwog cyfres Bron/Broen) yn Sweden, lle mae gwestai dinas Malmö dipyn rhatach na chrocbris København (Copenhagen). Gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus modern a rhesymol a llwybrau beicio di-fai, mae’n hawdd mynd a dod rhwng y ddwy wlad. Fel finnau’n gadael Cymru a hedfan o faes awyr yn Lloegr. A dw i’n teimlo’n andros o euog.

Prin 13 milltir ydi’r Rhws o’r fflat, ond mi heidiaf hanner can milltir dros yr Hafren i Fryste i fanteisio ar docyn dwyffordd £40 y cwmni Gwyddelig yna…! Mae modd defnyddio fy maes awyr fy hun i fynd i wledydd Llychlyn hefyd. Sbec sydyn ar wefan Skyscanner, ac mi ffeindiais ffleit o Gaerdydd i Københavns Lufthavn am £200. Rŵan mae’r hwyl yn dechrau. Dal awyren AerLingus i Béal Feirste (Belfast) yn gyntaf, tamaid o ginio a galwad natur yn fan’no, camu ar ffleit Belffast-Bryste, stretsio coesau am ddwy awr a dal easyjet o Fryste i København. Epig naw awr, a digon o ôl troed carbon i wneud i Lee Waters grïo’r glaw!

Mae Caerdydd yn tsiampion am benwythnos parti plu i Newcastle neu drip rygbi i Dùn Èideann (Caeredin) neu Baile Átha Cliath (Dulyn), gwyliau natur i Shetland neu ddos o heulwen Paphos neu Las Palmas. Roedd modd osgoi syrffed pedair awr a mwy ar yr A470 ers talwm trwy hedfan hanner can munud o’r Fali i Gaerdydd, fel y tystiodd perthnasau o’r fam ynys. Gwasanaeth ardderchog a hynod Gymraeg i ymwelwyr penwythnos a phobol fusnes, gwleidyddion a llawfeddygon oedd am wibio o un pen o’r wlad i’r llall am y dydd. Gan ddenu 14,000 o deithwyr y flwyddyn yn ei anterth, cafodd ei lambastio’n naturiol ddigon gan y Torïaid fel vanity project a’i fedyddio’n ‘IeuanAir’ ar ôl Ieuan Wyn Jones, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn 2007. Y glec olaf oedd diffyg arian cyhoeddus a chyfnod Covid-19. Ym Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru:

“Yn hytrach na gwario hyd at £2.9m bob blwyddyn i ariannu’r gwasanaeth awyr, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd o fuddsoddi’r arbediad hwn i helpu i gyflwyno pecyn o fesurau i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y gogledd.”

Yn y cyfamser, mae’r Gogs yn dal i ddisgwyl am welliannau dybryd fel ffordd osgoi Llanbedr Harlech, trydedd bont dros y Fenai, a threnau chwim a chyson o Fangor i’r brifddinas.

Ond yn ôl at broblem Caerdydd v Bryste. Cyhoeddwyd bod Maes Awyr Caerdydd wedi gwneud colled o £4.5m yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2023, gyda dim ond 837,000 o deithwyr o gymharu â’r record o 9.8m ddefnyddiodd Bryste yn yr un cyfnod. Prinhau mae cyrchfannau Caerdydd, gydag Eastern Airways newydd roi’r gorau i’w gwasanaeth dyddiol i Paris, a tydi Qatar Airways yn dal heb ddychwelyd ers pandemica.

Fel arfer, mae ein daearyddiaeth ni’n ein herbyn a’n cefnffyrdd gorau yn ein cludo tua’r dwyrain i Lerpwl, Birmingham a Manceinion heb sôn am dde-orllewin Lloegr a Llundain. Ond hyd at ddegawd yn ôl, roedd y Sefydliad Materion Cymreig yn gwyntyllu’r syniad o gau meysydd awyr Caerdydd a Bryste ac agor un newydd sbon ‘Severnside’ maint Gatwick ar y glannau rhwng Casnewydd a Chas-gwent. Byddai’n denu deng miliwn o deithwyr y flwyddyn, yn elwa ar hwylustod yr M4 a threnau trydan Metro De Cymru, ac yn osgoi llygredd sŵn wrth i awyrennau’n esgyn a glanio uwch y dŵr. A pham lai? Creu un o feysydd awyr mwyaf y Deyrnas Unedig y tu allan i Lundain, a dilyn patrwm dinasoedd eraill sy’n rhannu cyfleusterau trawsffiniol megis Euroairport Basel-Mulhouse-Freiburg dan berchnogaeth y Swistir a Ffrainc.

Meddai’r economegydd Joel Strange ar wefan Business Live yn gynharach eleni:

“Wales’s new First Minister will face a full inbox in March. Prioritising a bold approach to aviation in Wales could be one of the most significant contributions to putting Wales on the global map and growing the Welsh economy made by a Welsh leader since devolution a quarter of a century ago.”

Go brin y gwelwn ni’r fath uchelgais a buddsoddiad. Mae Lesley Griffiths eisoes wedi rhwystro fferm solar ar Wastadeddau Gwent, fel y gwnaeth Mark Drakeford efo ffordd liniaru’r M4 yn yr un ardal yn 2019.

Am y tro, dim ond enw tîm Talwrn ydi ‘Aberhafren’!