Nid syndod yw bod ein sefyllfa bersonol yn ‘normal’ i ni. Tueddwn i fyw, gweithio, cymdeithasu ac addoli gyda phobol debyg iawn i ni: mae eu ‘normal’ hwythau yn cyfateb i’n ‘normal’ ninnau. Nid oes herio, felly, ar ein deall o’r hyn yw ‘normal’. Yn lled gyffredinol, trwy’r cyfryngau y clywn sôn am bobol sydd yn wahanol i ni.

Mae pobol Draws yn enghraifft o hynny. Gellid dweud fod rhaglenni dogfen sy’n canolbwyntio ar lawdriniaeth a newidiadau corfforol yn creu darlledu diddorol, ond mae’r rhaglenni hyn yn drysu’r gwir fod taith rhywedd unigolyn yn dechrau ymhell cyn – ac yn parhau ymhell ar ôl unrhyw ymyrraeth feddygol. Daw hefyd bob math o ragdybiaethau ffals yn awgrymu bod pawb sydd yn anghydffurfio o ran rhywedd yn dymuno trawsnewid rhywedd. Heb wybodaeth ddigonol, awn i ddibynnu ar stereoteipiau: siaradwn am bobol yn hytrach na siarad â phobol – mae un yn haws o dipyn na’r llall. O gamddealltwriaeth, hwb cam a naid sydd i ragfarn ac anoddefgarwch. Os ydym o ddifrif am ein ffydd, nid yw’r math yma o ymddygiad yn gymorth nac yn adeiladol: nid derbyniol mohono.

Yn sicr, mae’r bobol sydd yn anghydffurfio â’r hyn sydd, i eraill, yn ‘normal’ yn peri anesmwythyd. Ym mhob traddodiad Cristnogol yng Nghymru, daeth cael bod yn gyfforddus yn beth pwysig iawn. Er mor naturiol yw hyn, nid iach mohono: afiach ydyw. O’r cyfforddusrwydd hwn y daw’r tueddiad i gynnal a chadw’r ddelwedd o Dduw sydd yn wyn ei groen, yn wrywaidd, yn cisryweddol, yn abl ac yn heteronormadol. Mae glynu wrth y delweddau traddodiadol hyn yn gwanhau ein perthynas bersonol â Duw, a hefyd yn golygu mai cau a chloi drysau yn erbyn pobol a wna ein cenhadaeth. Mae Duw bob amser yn amgenach na’n hamgyffred ni ohono, os Bugail ydyw (Salm 95:7), mae Duw hefyd yn graig (Salm 78:35), yn wraig tŷ (Luc 15:8); os eryr (Deuteronomium 31:11) iâr ydyw’r un pryd (Mathew 23:37); os tân ydyw (Hebreaid 12:29), rhewynt oer (Job 37:10) a dŵr (Salm 65:9) ydyw. Mae gweld Duw mewn ffordd a ffyrdd gwahanol yn lledu gorwelion ein cred a’n credu. Mae cael gweld Duw trwy lygaid eraill yn rhan annatod o hyn.

Gyda hyn, mae’n anodd dadlau nad yw tegwch a chydraddoldeb yn bwysig i Dduw. Ein gwaith fel pobol Dduw yw bod yn deg. Golyga tegwch fod croeso i bawb addoli – un o hanfodion addoli yw perthyn. Rhaid derbyn nad yw’r arwydd ‘Croeso i bawb’ wrth ochr drws y capel yn golygu ‘Croeso’, gan nad oes croeso ‘i bawb’. Pe bawn yn gignoeth o onest, buasai’r arwydd yn darllen ‘Croeso i bobol debyg i ni’. Efallai eich bod yn teimlo bod hynny’n annheg – er nad ydwyf yn credu hynny – ceisiaf osod y peth mewn ffordd ychydig yn wahanol: oni fuasech yn derbyn fod pobol sydd yn anghydffurfio â’r hyn y tybir ei fod yn ‘normal’ yn cael eu goddef yn fwy na’u dathlu yn ein heglwysi?

Nid yw hyn yn llesol i’n gweinidogaeth na’n cenhadaeth. Dw i’n credu mai gwenwyn ydyw i’r naill a’r llall. Un o nodweddion ein crefydda, ers degawdau bellach, yw sefyll yn erbyn rhyw bethau. Daeth yn amser i sefyll o blaid rhyw bethau, i sefyll gyfysgwydd â phobol.

Y duedd ddeuaidd o rywedd yw’r lens trwy’r un y mae’r rhelyw o bobol ffydd yng Nghymru yn gweld yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am wryw a benyw. Y brif adnod yw Genesis 1:27: Felly creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun; ar ddelw Duw y creodd ef; yn wryw ac yn fenyw y creodd hwy. Gan gydnabod fod yr adnod yn amlwg ddigon yn datgan fod yna wahaniaeth rhwng gwryw a benyw, mae’r cadarnhad o gydraddoldeb – y naill a’r llall wedi’u creu ar ddelw Duw – yn llawer pwysicach yn ddiwinyddol. Yn ail, ac yn gwbl berthnasol, dywed adnod 9 a 10: yna dywedodd Duw, “Casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych.” A bu felly. Galwodd Duw y tir sych yn ddaear, a chronfa’r dyfroedd yn foroedd. Tir a môr, ie … ond mae corsydd, aberoedd a chreigresi cwrel yn bodoli. Dylid arfer pob gofal wrth ddefnyddio’r adnod hon fel arf. Nid yw delw Duw yn gyfyngedig i’r berthynas rhwng gwryw a benyw. Nid yw priodas a chyfathrach rywiol yn gyfystyr â’r paradeim o wryw a benyw. Os felly, buasai pobol hŷn, y weddw, y di-briod yn gorfod cael eu hystyried i fod yn llai na dynol. Nid yw’r sawl sydd yn anghydffurfio â’r ddeuoliaeth gyffredin a thraddodiadol yn cael eu hamddifadu o ddelw Duw.

Mae Cymdeithas Broffesiynol y Byd ar gyfer Iechyd Trawsryweddol (WPATH) yn gorff amlddisgyblaeth, ac mae Safonau Gofal mwyaf diweddar y Gymdeithas yn datgan:

“Being transgender is a human variation and not a pathology. It is both ineffective and unethical to attempt to persuade someone to alter their gender identity.”

Hynny yw, nid dewis yw bod yn drawsryweddol.

Myn astudiaeth o 2017 gan Joan Roghgarden o Brifysgol Stanford:

… many studies are now reporting that the physical structure of transgender people more closely resembles the sex they identify with rather than with their genital sex.

Dengys trwch o dystiolaeth, felly, nad pobol wedi drysu, pobol wyrdroëdig na phobol feddyliol sâl mo pobol drawsryweddol. Gwahanol ydyn nhw, ac yn naturiol felly heb fod llai haeddiannol o barch a chroeso, bendith a phob cynhaliaeth ysbrydol.

Gan dderbyn gweinidogaeth Iesu fel paradeim neu batrwm i’n gweinidogaeth ninnau, dylai gweinidog, arweinydd eglwysi lleol a chyfundrefnol, fod yn rhagweithiol gan greu diwinyddiaeth iachus ac iachusol, agored a chynhaliol.

Credaf mai’r man cychwyn yw trafod o ddifri ein hymagwedd tuag at rywedd yn gyffredinol yn ein heglwysi ac yn ein gweinyddiaeth enwadol. Dylid gofyn, yn onest, a yw ein gwaith a’n gweinidogaeth, ein pwyllgorau a’n pwyllgora yn fodelau o gydraddoldeb? Mae gwaith mawr i’w wneud. Dywedaf hynny ar sail y ffaith i mi glywed mewn pwyllgor yn ddiweddar y cadeirydd (gwryw) yn datgan mai da fuasai cynnwys un o’r ‘rhyw deg’ yn aelod o’r is-bwyllgor oedd yn cael ei greu. Mewn diwrnod hyfforddiant i weinidogion, y gweinidogion benywaidd oedd yn gweini’r te ac yn gosod y bwrdd i ginio. Clywais weinidog yn datgan fod gwyrdroi’r ymadrodd ‘Brodyr a Chwiorydd’ i ‘Chwiorydd a Brodyr’ yn gam mawr tuag at gydraddoldeb. Un o’r pennaf rwystrau i gyrhaeddiad a datblygiad yw credu ein bod eisoes wedi cyrraedd – nid ydym yn agos at gyrraedd. Fel pob amser ar hyd ffordd ffydd, mae cyrraedd pen draw un daith yn golygu dechrau taith arall, newydd. Rydym ar ei hôl hi, gan fod y daith tuag at sicrhau cydraddoldeb ystyrlon i’r bobol hynny sy’n sefyll rhwng y naill begwn a’r llall, benyw a gwryw, eisoes yn ymagor o’n blaen.