Bu Rich Chitty yn cadw’r bît mewn sawl band, gan deithio cyfandir Ewrop, cyn sefydlu label recordiau a dod yn un o arwyr tawel y Sîn Roc Gymraeg…

 

Aeth pymtheg mlynedd heibio ers sefydlu label recordiau sy’n gartref i rai o ddoniau disglair y Sîn Roc Gymraeg.

Erbyn hyn, mae dros ddwsin o artistiaid ar label y Bubblewrap Collective, ac maen nhw yn cwmpasu sawl genre.