Nôl yn 2020 pan glywsom ni bod Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi prynu Clwb Pêl-droed Wrecsam, mi wnes i ysgrifennu croeso gofalus iddyn nhw yn y golofn hon. Rydw i’n siŵr roedden nhw’n falch o hynny wrth ddarllen eu copi o Golwg dros eu crempogau surop maple yn Efrog Newydd.
Gyda Wrecsam yn sicrhau ail ddyrchafiad yn olynol (y tro cyntaf i glwb wneud hynny yng Nghynghrair Lloegr ers Southampton yn 2012), mae’n bosib dweud bod Ryan a Rob heb gymryd cam gwag. Rydw i wedi mwynhau dilyn eu taith o bell ac yn enwedig wedi edmygu eu gwaith hael dros y ddinas a’i phobl. Mae eu diddordeb nhw yn Wrecsam i weld yn awthentig, ac nid sioe ffug ar gyfer eu cyfres deledu lwyddiannus.
Roedd yr ymateb i fuddugoliaeth Wrecsam yn erbyn Forest Green yn dweud llawer. Roeddwn i’n clywed pobl yn diweddaru’r sgôr wrth wylio’r gêm roeddwn i’n ei mynychu ddydd Sadwrn yng Ngwynedd. Ac mae hynny yn rhywbeth arferol y dyddiau yma. Mae cefnogwyr Cymraeg y clybiau mawr Lloegr i gyd wedi dechrau rhoi sylw i’r cochion, sy’n cynrychioli’r gogledd gyfan fel yr unig dîm proffesiynol (os wyt ti’n anghofio’r Seintiau Newydd sydd dros y ffin).
Doedd yr ymateb ddim mor glên yn Lloegr gyda rhai unwaith eto yn cwestiynu presenoldeb Wrecsam yn “ein Cynghrair ni”. Mae’n amlwg mai cenfigen sydd yn ysgogi’r agwedd yna – gydag ychydig bach o wrth-Gymreictod hefyd.
Yn yr Unol Daleithiau roedd ffans newydd y clwb yn dathlu. Mae dyrchafiad yn rhywbeth sydd heb fodoli yn chwaraeon America, ac maen nhw wedi mwynhau dilyn stori Wrecsam hyd yma. Roedd hi’n hwyl i ddarllen rhai o’r sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Dydw i ddim yn hollol siŵr os oedd y person wnaeth holi os oedd Forest Green yn agos i Nottingham Forest o ddifrif, ond rydw i’n hoffi meddwl ei fod o.