Mae achos cyfreithiol yn erbyn cyn-aelod o’r band Bwncath wedi cael ei ollwng wedi i’r erlyniad gynnig dim tystiolaeth yn ei erbyn.

Cafodd Alun Jones Williams, 26 oed o’r Ffôr, Pwllheli ei ganfod yn ddieuog o gyfathrebu’n rhywiol â phlentyn dan 16 oed yn Llys y Goron Caernarfon heddiw (Ebrill 17).

Roedd yr athro wedi gwadu cyhuddiad gafodd ei wneud yn ei erbyn fis Tachwedd llynedd.

Mewn datganiad wedi’i ryddhau drwy ei gyfreithiwr, Strain a’i Gwmni, dywed Alun Williams ei bod hi’n “rhyddhad bod cyfiawnder wedi ennill y dydd”, ond bod ei “enw da yn deilchion” yn sgil y cyhuddiad “di-sail”.

“Rwyf yn hynod falch o gael fy nghanfod yn ddieuog o’r diwedd,” meddai.

“Cefais fy nal yn y ddalfa am dros ddeg awr ar hugain gan fod cyhuddiad brys  di-sail yn cael ei roi yn fy erbyn. Yna, cefais fy nhywys yn ddifechniaeth gerbron Llys.

“Nid oedd archwiliad cywir o’r dystiolaeth, ac mae fy enw da yn deilchion o’r herwydd.

“Mawr yw fy niolch i Michael Strain, staff Strain a’i Gwmni, ac Elen Owen fy Margyfreithwraig am eu cadernid, gwaith di flino a chefnogaeth.

“Ond, yn fwyaf oll, mae fy niolch yn enfawr i fy nheulu a fy ffrindiau sydd wedi rhoi cariad a chefnogaeth i mi drwy’r hunllef barhaus yma dros y chwe mis diwethaf.”

Diolchodd hefyd am y gefnogaeth sydd wedi’i ddangos tuag ato a’i deulu dros y “cyfnod arteithiol” hwn.

“Byddwn i ddim yn dymuno’r profiad afiach yma ar neb.  Fydd fy mywyd byth yr un fath eto ar ôl hyn.

“Rwyf am gymryd amser gyda fy nheulu a fy ffrindiau i geisio dod yn ôl ataf fy hun, ac i drio rhoi’r mater yma tu ôl i mi. Yn sicr, fydd y profiad dirdynnol hwn yn aros efo mi tra byddaf fyw.”