Mae anturiaethwyr wedi bod yn teithio o ogledd i dde Eryri i ddathlu 70 mlwyddiant y Parc Cenedlaethol yr wythnos hon.

Bydd yn cyrraedd y garreg filltir ddydd Llun nesaf (18 Hydref), ac mae gweithgareddau wedi bod yn digwydd i nodi’r pen-blwydd arbennig.

Fe gafodd y Parc ei sefydlu yn Eryri 1951, yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, a dyma oedd y trydydd Parc Cenedlaethol ledled Prydain ar y pryd.

Mae’n rhychwantu 827 milltir sgwâr o dir a 37 milltir o arfordir, ac mae’n gartref i fynyddoedd uchaf Prydain ac eithrio’r Alban.

Taith arbennig

Un o’r gweithgareddau yw’r daith sydd wedi bod yn digwydd yr wythnos hon, gyda baton arbennig yn cael ei gludo o ogledd Eryri i’r de.

Fe gafodd y baton ei ddylunio gan y grefftwraig Miriam Jones allan o bren derw, gydag amlinelliad y mynyddoedd mewn alwminiwm, a geiriau o gerdd Ifor ap Glyn wedi eu naddu mewn copr.

Hefyd, mae pob dydd wedi gweld artist neu awdur arbennig yn cyfrannu darn o gelfyddyd i ddathlu’r Parc, gyda phobol fel Ifor ap Glyn, Lisa Eurgain Taylor ac Owain Roberts o Fand Pres Llareggub yn creu i’r digwyddiad.

Heddiw (15 Hydref), bydd y daith honno’n cyrraedd y pumed cymal, sef taith redeg o faes parcio Minffordd i faes parcio Llynpenmaen, sydd o gwmpas 10 milltir o hyd.

Bydd y baton yn cyrraedd y terfyn ar ddiwrnod y pen-blwydd, gyda thaith gerdded ar hyd yr arfordir o Dywyn i Aberdyfi.

“Carreg filltir allweddol”

Mae Emyr Williams, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri, yn dweud bod y pen-blwydd yn gyfle i “adlewyrchu.”

“Cafodd y Parciau Cenedlaethol cyntaf eu dynodi yn fuan ar ôl yr Ail Ryfel Byd er mwyn codi ysbryd y wlad ac i ddiolch i arwyr y rhyfel,” meddai wrth golwg360.

“Yr adeg hyn cafodd y Gwasanaeth Iechyd a’r cysyniad o dai cyngor eu gwireddu hefyd.

“70 mlynedd ymlaen, mae’n gyfle i ni adlewyrchu lle’r ydym ni wedi cyrraedd.

“Mae’n garreg filltir allweddol i ni fel Parc Cenedlaethol, wedi cyfnod mor heriol.

“Mae adlewyrchu dros y 70 mlynedd diwethaf ac edrych ymlaen ar be fyddwn ni’n gobeithio cyflawni dros y 70 nesaf wedi bod yn ysbrydoliaeth anhygoel.

“Mae gennym lawer i ddysgu o’r gorffennol a llawer i edrych ymlaen ar gyfer y dyfodol.”

Blwyddyn heriol

Wrth ystyried y pandemig, mae’n hawdd dadlau mai dyma’r flwyddyn fwyaf eithriadol i’r Parc wynebu.

“Mi fysai’n hawdd dadlau mai blwyddyn 70 oedd y flwyddyn fwyaf heriol yn hanes y Parc Cenedlaethol,” meddai Emyr Williams.

“O bosib yr unig gyfnod fyddai’n dod yn agos i gael gymaint o effaith ar yr ardal, ar gefn gwlad ac ar y cymunedau oedd cyfnod y clwyf traed a genau.”

Roedd y Parc hefyd wedi gweld cynnydd aruthrol mewn ymwelwyr yn ystod y pandemig

Dyfodol

Mae Emyr Williams yn edrych ymlaen at weld beth mae’r Parc yn mynd i olygu i bobol yn y dyfodol.

“Yn sicr mae heriau o’n blaenau, o bosib mai’r brif her yw sut ydym am ymateb i’r argyfwng newid hinsawdd, ond hefyd sut yr ydym am ddygymod a phwysau ymwelwyr yr ardal,” meddai.

“Yn ystod Covid mae’r boblogaeth wedi ailgysylltu a natur ac yn gweld gwerth tirweddau dynodedig, cefn gwlad a’r awyr agored.

“Mae pobl wedi ail sylweddoli yr hyn sydd i’w gynnig yn lleol ac yn gweld gwerth y Parciau Cenedlaethol.

“Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar ddynodi Parc Cenedlaethol newydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

“Yma yn Eryri mae cynlluniau mawr ar waith ar gyfer y dyfodol a’r peth pwysicaf i ni ydi ein bod ni’n cydweithio’n agos gyda mudiadau a chymunedau i ddod i’r afael; a’r heriau er mwyn gwarchod rhinweddau arbennig Eryri.”