Mae Nick Thomas-Symonds, aelod seneddol Torfaen a llefarydd materion cartref Llafur yn San Steffan, wedi datgelu iddo dderbyn bygythiadau i’w fywyd yn y gorffennol.

Daw ei sylwadau ar raglen BBC Breakfast wrth i ddyn 76 oed o Bontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr gael ei arestio ar amheuaeth o gyfathrebu’n faleisus â Chris Bryant, aelod seneddol Llafur y Rhondda.

“Dw i wedi cael digwyddiadau ers i fi ddod yn aelod seneddol, boed yn ymddygiad bygythiol tra dw i allan ar y strydoedd, bygythiadau i’m bywyd, llythyrau ofnadwy, e-byst ofnadwy,” meddai.

“Dw i ddim ar fy mhen fy hun yn hynny o beth mewn unrhyw ffordd.

“Dw i ddim yn nabod aelod seneddol sydd heb ddioddef yn y fath fodd.

“Mae’n amlwg fod rhaid i rywbeth newid nawr.”

Mae’n dweud ei fod e wedi gwneud newidiadau i’w ffordd o weithredu fel aelod seneddol ers i Jo Cox, aelod seneddol Batley & Spen, gael ei llofruddio y tu allan i gymhorthfa.

“Pethau fel apwyntiadau ar gyfer cymorthfeydd, pethau fel bod yn ofalus iawn rhag hysbysebu ymlaen llaw lle dw i’n mynd, a dw i’n gwybod fod aelodau seneddol eraill yn gwneud hynny nawr,” meddai.

Ychwanega ei fod yn gobeithio y bydd adolygiad diogelwch yn cael ei gynnal “yn gyflym”.

Cofio Syr David Amess

Yn y cyfamser, mae Nick Thomas-Symonds yn dweud nad yw e wedi amgyffred â marwolaeth Syr David Amess.

“Mae gen i synnwyr o anghrediniaeth o hyd, mewn gwirionedd, ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd,” meddai.

Mae’n dweud bod Syr David Amess yn “ddyn caredig a hael iawn”.

“Fe wnes i gyfarfod â David gyntaf pan ddaeth e i mewn i’r Senedd yn 2015,” meddai.

“Do’n i ddim wedi gweithio yn y Senedd o’r blaen ac ro’n i’n dal i geisio ffeindio fy ffordd yn y lle.

“Daeth David ata’ i a gofyn sut oeddwn i a sut ro’n i’n ymgartrefu.

“Fe wnaeth y sgwrs honno grisialu David yn ei hanfod.

“Roedd e’n ddyn caredig a hael iawn.”

Teyrngedau

Fe fydd aelodau seneddol yn ymgynnull heddiw (dydd Llun, Hydref 18) i dalu teyrnged i Syr David Amess.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn annog pobol i fod yn oddefgar ac i “roi casineb o’r neilltu” er cof amdano.

Bydd aelodau seneddol yn treulio ychydig oriau yn San Steffan yn hel atgofion amdano, a hynny ar ôl bore o weddïau a munud o dawelwch am 2.30yp.

Bydd Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, yn gwneud datganiad cyn i Boris Johnson alw am ohirio busnes y Tŷ ar gyfer sesiwn o deyrngedau tan 5.30yh.

Arestio dyn 76 oed ar amheuaeth o gyfathrebu’n faleisus â Chris Bryant

Daw’r bygythiad yn erbyn Aelod Seneddol y Rhondda yn dilyn marwolaeth Syr David Amess, yr aelod seneddol Ceidwadol o Southend

Marwolaeth David Amess: Heddlu’n cyhoeddi digwyddiad terfysgol

Galwadau am fwy o fesurau i ddiogelu aelodau seneddol