Mae disgwyl i Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru’n dilyn polisi i wella swyddi, cau’r bwlch sgiliau a threchu tlodi fel rhan o’r adferiad ar ôl Covid-19.
Fe fydd yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer economi Cymru ac yn ymrwymo i ddull “Tîm Cymru” i gynnig sicrwydd i fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig.
Mae disgwyl iddo addo oes newydd o bartneriaethau i gryfhau datblygiad economaidd rhanbarthol, cynllun i gefnogi’r economi o ddydd i ddydd, a chefnogaeth i weithwyr yn sgil economi newidiol.
Fe fydd yn amlinellu ei gynlluniau yn ystod uwchgynhadledd economaidd hybrid ym mhencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd.
Mae disgwyl iddo addo y bydd Llywodraeth Cymru’n cydweithio ag undebau llafur a busnesau i sicrhau bod buddsoddiad yn gysylltiedig â thegwch yn y gweithle, datgarboneiddio a sgiliau, yn ogystal ag addewid i adolygu’r her ddemograffig mae Llywodraeth Cymru’n ei hwynebu.
Mae cyfradd y boblogaeth rhwng 16 a 64 oed wedi bod yn gostwng bob blwyddyn ers canol 2008, ac fe allen nhw gyfrif am ddim ond 58% o’r boblogaeth erbyn 2043.
Fe fydd Llywodraeth Cymru hefyd yn galw ar Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, ddangos uchelgais Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer Cymru drwy wireddu addewidion a wnaed ynghylch arian yr Undeb Ewropeaidd, cefnogi ynni adnewyddadwy megis ynni’r llanw, a buddsoddi mewn ymchwil a datblygiad yng Nghymru.
‘Camau breision’
“Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd camau breision i adeiladu economi gryfach, decach, wyrddach i Gymru,” meddai Vaughan Gething.
“Fe gymerodd ymdrech ‘Tîm Cymru’ i gadw Cymru’n ddiogel a byddwn yn cyflwyno adferiad ‘Tîm Cymru’, wedi’i adeiladu gan bob un ohonom.
“Bydd adferiad Cymreig cryf yn seiliedig ar egwyddorion gwaith teg a chynaladwyedd wrth i ni fuddsoddi yn niwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
“Wrth i ni wynebu effeithiau Brexit, rwy’n benderfynol y bydd ein cynlluniau credadwy yn cynnig cymaint o sicrwydd â phosib i helpu busnesau i gynllunio ymlaen llaw.”
Ychwanega fod “oes newydd o bartneriaeth ar gyfer rhanbarthau cryfach, sicrwydd i bobol ifanc, cynllun i gefnogi ein heconomi bob dydd a chydweithio â gweithgynhyrchu o safon fyd-eang” yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru ac yn “destun optimistiaeth ar gyfer y dyfodol rydym yn ei adeiladu yng Nghymru”.
“Fy uchelgais yw gwneud Cymru’n lle y gall mwy o bobol ifanc deimlo’n hyderus wrth gynllunio’u dyfodol yma,” meddai wedyn, wrth ychwanegu nad oes angen i bobol adael Cymru i ddatblygu gyrfa, a bod modd iddyn nhw adeiladu dyfodol yma.