Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed heddiw (dydd Llun, Hydref 18).
Dros yr wythnosau diwethaf, mae nifer o brosiectau wedi cael eu cynnal er mwyn dathlu pen-blwydd parc cenedlaethol hynaf Cymru.
Derbyniodd yr ardal y dynodiad yn 1951 yn sgil Deddf Parc Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, ac Eryri oedd y drydedd ardal yn y Deyrnas Unedig i dderbyn y dynodiad.
Mae’n rhychwantu 827 milltir sgwâr o dir a 37 milltir o arfordir, ac mae’n gartref i fynyddoedd uchaf Prydain ac eithrio’r Alban.
Y dathliadau
Mae Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi cael ei gomisiynu i ysgrifennu cerdd ar gyfer y dathliad, ac mae nifer o artistiaid lleol wedi ymateb i’r gerdd honno, a’r Parc, yn greadigol.
Yn eu plith mae paentiad gan Lisa Eurgain Taylor, giât gan Joe Roberts, gosodiad celf amgylcheddol gan Tim Pugh, cân gan Owain Roberts ac Eve Goodman, a ffilm ddawns gan Angharad Harrop a Helen Wyn Pari.
Mae’r artist Miriam Jones wedi creu baton hefyd, ac mae’r baton ar daith o ogledd Eryri i’r de ac yn cael ei gario ar droed, ar ddwy olwyn a thrwy ddŵr.
Dechreuodd yn ardal Conwy, a bydd yn cyrraedd pen y daith yn Aberdyfi, lle bydd cyfle i staff, gwirfoddolwyr, aelodau a phartneriaid y Parc Cenedlaethol ymgynnull.
Mae’r dathliadau hefyd yn cynnwys gwahoddiad i Gynghorau Cymuned helpu’r Parc i blannu 5,000 o goed, un ar gyfer pob un trigolyn sy’n dathlu ei ben-blwydd a phob plentyn sy’n cael ei eni yn 2021.
Er mwyn cofnodi’r saith degawd, mae’r Parc Cenedlaethol wedi bod yn pori drwy hen ffotograffau er mwyn creu oriel ddigidol o hen luniau hefyd.
Yn glo ar y dathliadau, bydd rhaglen arbennig yn cael ei dangos ar S4C nos fory (nos Fawrth, Hydref 19), sy’n portreadu’r ardal a’i phobol.
‘Adeg arwyddocaol’
“Mae’r dathliad eleni yn digwydd ar adeg arwyddocaol yn ein hanes, wrth i ni ddod allan o un o’r cyfnodau anoddaf ers ein dynodiad – i’r cymunedau, ac i ninnau fel Awdurdod,” meddai Wyn Ellis Jones, Cadeirydd Parc Cenedlaethol Eryri.
“Yn sicr mae pandemig Covid-19 wedi dod â thro ar fyd, ond gyda staff, gwirfoddolwyr, aelodau a phartneriaid angerddol ac ymroddgar, rwy’n ffyddiog bydd Eryri yn parhau i fod yr un mor arbennig i genedlaethau’r dyfodol.”