Mae 14 o bobl wedi marw ar ôl i fomiau ddinistrio bws oedd yn cludo milwyr yn Syria.

Hwn yw’r ymosodiad mwyaf dinistriol yn Damascus ers sawl blwyddyn.

Dywedodd swyddog milwrol fod y ffrwydradau wedi’u hachosi gan fomiau a oedd wedi’u cysylltu â thu allan y cerbyd.

Syrthiodd trydydd bom o’r bws ac fe’i datgymalwyd gan filwyr, meddai’r swyddog.

“Gweithred lwfr”

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yma.

Dyw hi chwaith ddim yn glir os gafodd y bomiau eu ffrwydro o bellter neu a oedden nhw wedi cael eu hamseru i ffrwydro.

Dangosodd teledu gwladol Syria y bws wedi’i ddinistrio, gan ddweud fod y ffrwydrad wedi digwydd tra’r oedd pobol yn teithio i’r gwaith neu i ysgolion.

“Mae’n weithred lwfr,” meddai pennaeth heddlu Damascus, Hussein Jumaa, wrth deledu’r wladwriaeth.

Anogodd bobl i roi gwybod i awdurdodau am unrhyw wrthrych amheus y maen nhw’n ei weld.

Cefndir

Mae grymoedd yr Arlywydd Bashar Assad bellach yn rheoli llawer o Syria ar ôl cael cymorth milwrol gan eu cynghreiriaid, Rwsia ac Iran.

Fodd bynnag, mae rhai tiriogaethau’n dal i gael eu dal gan wrthwynebwyr arfog yng ngogledd y wlad, lle mae grymoedd yr Unol Daleithiau a Thwrci wedi’u lleoli.

Mae’r gwrthdaro ddechreuodd yn y wlad ym mis Mawrth 2011 wedi lladd dros 350,000 o bobl ac wedi dadleoli hanner poblogaeth y wlad, gan gynnwys pum miliwn sy’n ffoaduriaid dramor.

Yn y cyfamser daeth adroddiadau fod lluoedd byddin Assad wedi bomio marchnad yn ninas Ariha, yn Idlib. Dywedir foe o leiaf 10 o bobol wedi eu lladd, yn cynnwys tri o blant,

Hefyd, mae pum aelod o luoedd Assad wedi eu lladd ac eraill wedi eu hanafu mewn ffrwydrad mewn depot arfau ger dinas Hama.